Cyfieithiadau i'r Gymraeg
Mae hanes hir i gyfieithu o ieithoedd y byd i'r Gymraeg. Y Beibl, a droswyd o'r testunau Groeg a Hebraeg gwreiddiol gan yr Esgob William Morgan, yw sylfaen yr iaith lenyddol heddiw.[1] O'r Saesneg mae tarddiad Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne er mai addasiad gwreiddiol ydyw yn hytrach na chyfieithiad, ac roedd y testun Saesneg yn ei dro yn seiliedig ar waith Sbaeneg, sef Los Suenos.
Mae cyfresi "Dramâu'r Byd" gan Wasg Prifysgol Cymru, "Dramâu Aberystwyth", "Chyfres yr Academi" a Storïau Tramor gan yr Academi Gymreig yn rhan o ymgyrch i ddod â llenyddiaeth orau'r byd i'r darllenydd Cymraeg.
Rhestr o ieithoedd a llyfrau a droswyd i'r Gymraeg
golygu- Yr Adduned (Das Versprechen 1958) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Robat G. Powell, Cyfres yr Academi (Gwasg Gee, 1976)
- Y Twnel (Der Tunnel), stori fer gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Ioan Bowen Rees, Taliesin 33 (Rhagfyr 1976), tud. 21. Troswyd i ddathlu rhoi Gwobr yr Academi iddo.
- Y Ffisegwyr (Die Physiker 1962) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Damian Walford Davies, Cyfres Dramâu Aberystwyth (CAA, 1991)
- Ymweliad yr Hen Foneddiges (Der Besuch der Alten Dame, 1956) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan John Gwilym Jones a G. L. Jones, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
- Un Noson yn yr Hydref (Abendstunde im Spätherbs, 1959) drama radio gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Rhiannon John a David Myrddin Lloyd, Taliesin 32 (Gorffennaf 1976), tud. 8–29
- Ymwelwyr Annisgwyl a Storïau Eraill (Erzahlungen 1950–1970) gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan Dafydd Andrews, Cyfres yr Academi 6 (Academi Gymreig, 1980)
- Y Chwarddwr (Der Lacher, 1952, o Erzählungen 1950–1970) gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan W. Lloyd Griffith, Taliesin 71 (Medi 1990), tud. 55–56
- Nos Galan (Krabat 1971) gan Otfried Preussler, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Y Dref Wen, 1974)
- Ôl Traed yn y Tywod (Spuren im Sand, 1953) gan Hans Werner Richter, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1968)
- Gwyrdd fel Afal Awst gan Horst Biernath, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Gwasg Gomer, 1970)
- Dyma'r Dyn i Mi gan Horst T Tiedke, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones. (Llyfrau'r Faner, 1971)
- Priodi ar Brawf gan Paul Georg Kaufmann, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Gwasg John Penri, 1971)
- Rhybudd: Trofeydd gan Horst Biernath, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1972)
- Christina gan Eva Marianne Gowerius, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1973)
- Carnifal gan G Hauptmann a Heinrich Böll, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1974)
- Pinc a Gwyn - Pinc a Coch gan Hans Werner Richter, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1975)
- Llond Ceg o Lwc gan Horst Biernath, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Aberystwyth: Cambrian News Cyf, 1978)
- Storïau Tramor 2 Tri gwahanol awdur Almaeneg), gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- "Anna Welw" ("Die Blasse Anne") gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan Glyn Morris
- "Yr Antur" ("Das Abenteuer") gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan Robat G Powell
- "Y Wraig wrth yr Olwyn" ("Dame am Steuer") gan Gertrud Fussenegger, cyfieithwyd gan Glyn Morris
- "Yn y Trocadero" ("Im Trocadero") gan Wolfdietrich Schnurre, cyfieithwyd gan Glyn Morris
- Tranc yr Ysfa Waith (Anekdote zur Senkung der Arbeitsmoral, 1963, o Erzählungen 1950–1970) gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan W. Lloyd Griffith, Taliesin 75 (Hydref 1991), tud. 36–38
- Trotski'n Alltud (Trotski im Exil 1969) gan Peter Weiss, cyfieithwyd gan Gwyn Thomas ac Ian Hilton, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru 1979)
- Barddoniaeth Rilke (detholiad) (detholiad 1894–1926) gan Rainer Maria Rilke, cyfieithwyd gan John Henry Jones, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol VI (1984; fersiwn gwreiddiol ym 1945)
- Faust 1994 (Faust. Eine Tragödie 1808) cyfieithiad R. Gerallt Jones, Cyfres Dramâu Aberystwyth (CAA, 1994)
- Metamorffosis (Die Verwandlung, 1915) gan Franz Kafka. Addasiad ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Cyfieithiad/cyhoeddwyd gan Iawn.Cymru, 2021. ISBN 978-1-5272-8579-8
- Faust gan Johann Wolfgang von Goethe, cyfieithwyd gan Thomas Gwynn Jones. Cyfres y Werin (Rhif 11), 1922
Casgliadau
golygu- Yr Awen Almaeneg: blodeugerdd o farddoniaeth Almaeneg o'r dechreuadau hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf detholwyd, cyfieithwyd a golygwyd gan Pennar Davies (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983)
Llyfryddiaeth am Lenyddiaeth Almaeneg
golygu- Sarah Kirsch, golygwyd gan Mererid Hopwood, David Basker a Rhys W. Williams, Contemporary German Writers Series (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)
- Dafydd Andrews, Rhagair helaeth i'r Ymwelwyr Annisgwyl (Caerdydd: Academi Gymreig, 1980)
- Glyn Tegai Hughes, erthygl ar Franz Kafka yn Y Llenor yn Ewrop, golygwyd gan Gareth Alban Davies a W. Gareth Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
- T. Pugh Williams, erthygl ar Rainer Maria Rilke yn Y Llenor yn Ewrop, gweler uchod.
- Idris Parry, erthygl ar Bertolt Brecht yn Y Llenor yn Ewrop, gweler uchod.
- J Henry Jones, Rhagair helaeth i Barddoniaeth Rilke, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V (1984)
- H.M. Waidson, The Modern German Novel (OUP a Prifysgol Hull, 1959)
- Paul West, The Modern German Novel (Llundain: Hutchinson, 1963)
- Christopher Middleton (gol.), German Writing Today (Penguin, 1967)
- Beth sy'n Ailgynnau, cerdd gan Hanna Abu-Hanna, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007)
- America, America, cerdd gan Saadi Youssef, troswyd drwy'r Saesneg, gan Khaled Mattawa a Dafydd Iwan, Taliesin 130 (Gwanwyn 2007)
- Yfory wna i ddim Colli Mam (Bihar ez diot amari huts egingo) gan Patxi Zubizarreta, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 133 (Gwanwyn 2008)
- Marbly y Tadcu ("Aitonaren kanikak" o'r llyfr Zu bezain ahul, 2007) gan Karmele Jaio cyfieithwyd yn ddwyieithog (cymraeg a llydaweg) gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 55 (Awst 2010), tud. 13–20
- Disneyland Paris (Zu bezain ahul, 2007) gan Karmele Jaio cyfieithwyd yn ddwyieithog (cymraeg a llydaweg) gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 53 (Awst 2010), tud. 20–25
- Breuddwydion yn y Gogledd (Huñvreioù en hanternoz skornet, Ametzak iparralde izoztuan) gan Bernardo Atxaga cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 49 (Awst 2008), tud. 31
- Dirgelion y Swyddfa (Kevrinoù ar Burev), stori fer gan Patxi Zubizarreta cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 36 (Awst 2007), tud. 31
- Dau Asyn (Daou Azen, Bi Asto), stori fer gan Pernando Amezketarra, 2001 cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 42 (Ionawr 2006), tud. 25
- Esgidiau Rhad (Botou Marc'had Mad, Oenataku Merkeak), stori fer gan Pernando Amezketarra, 2001 cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 43 (Mai 2006), tud. 24
- Y Fendith (Ar Benediste, Aitaren eta …), stori fer gan Pernando Amezketarra, 2001 cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 41 (Awst 2005), tud. 24
- Ethygl dwyieithog am Patxi Zubizarreta, Llydaweg/Cymraeg, gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 44 (Awst 2006), tud. 16
- Pan mae'r Neidr …, stori fer gan Bernardo Atxaga cyfieithwyd gan Aelwyn Williams, Taliesin 104 (Ionawr 1999)
Gweler hefyd
golygu- Ned Thomas, "Porthi'r Pum Mil", golwg ar waith Bernardo Atxaga yn cynnwys cerdd a gyfieithwyd, Taliesin 131 (Haf 2007)
- Cyril P. Cule, Cymro ar Grwydr (Gwasg Gomer, 1941), sy'n cynnwys erthyglau helaeth ar y Basigiaid adeg y Rhyfel Gartref Sbaeneg ac ymateb y Cymry.
- Helen Eirlys Jones, "Yr Awdur yng Ngwlad y Basg", Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Cyn y Wawr (Abans de l'Alba 1954) gan Lluis Ferran de Pol cyfieithwyd gan Victor John ac Esyllt T. Lawrence (Gwasg Gomer, 1994)
- Llaw Fersil, cerdd gan Francesc Parcerisas, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007)
- Paul W. Birt, Cerddi Alltudiaeth: Thema yn llenyddiaethau Quebec, Catalunya a Chymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
- Dwyfol gan Dante: Annwn, Purdan, Paradwys (La Divina Commedia) gan Dante Alighieri, cyfieithwyd gan Daniel Rees (Swyddfa'r Herald, 1903)
- Detholion o'r Decameron (Decamerone) gan Giovanni Boccacio, cyfieithwyd gan T. Gwynfor Griffith (Gwasg Prifysgol Cymru, 1951)
- Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur (Sei personaggi in cerca d'autore, 1921) gan Luigi Pirandello, cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan (Llys yr Eisteddfod, 1981)
- Y Goedwig ar y Draffordd (Il bosco sull'autostrada) gan Italo Calvino, cyfieithwyd gan John Mathias, J. R. Woodhouse, yn Storïau Tramor 2, gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- Monotonia, cerdd o 1916 gan Giuseppe Ungaretti, cyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin 37 (Rhagfyr 1978)
- Pwy sydd Angen Barddoniaeth?, sef addasiad Aneirin Karadog o gerdd gan Jurgen Rooste, Taliesin135 (Gaeaf 2008)
- Gwraig o Flodau, sef cyfieithiad Elin ap Hywel o gerdd Kuldnainegan Kristiina Ehin, Taliesin 135 (Gaeaf 2008)
- Drymiau Tawelwch, cyfieithiad Alan Llwyd o waith Kristiina Ehin (2009)
- Storïau o'r Ffinneg, golygydd a chyfieithydd Niclas L. Walker (Gwasg Gomer, 1979)
- Llydaw am Byth (Breiz Atao 1964) gan Valere Depauw yn yr iaith Fflemeg "Vlaams", cyfieithwyd (o deipysgrif Ffrangeg) gan John Edwards. (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1969)
- Dyddiadur Belsen gan Renate Laquer 1946 yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Llandybie: Gwasg Christopher Davies, 1973)
- Fy Ffrind oedd Wrwg ( Oeroeg 1948) gan Hella Serafia Haase yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Gwasg Gomer, 1968)
- Y Ffynhonnell Gudd (De verborgen bron – 1950) gan Hella Serafia Haase yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Llandysul: J. D. Lewis, 1970)
- Dail Surion (Het bittere kruid - 1957) gan Marga Minco yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Llandybie: C. Davies, 1972)
- Pentre fy Mam (Het Drop Van Mijn Moeder - 1959) gan Marga Minco yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Gomer: Storiau Tramor, gol Harri Pritchard Jones, 1974)
- Edau yn y Tywyllwch drama deledu gan ? 19xx yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick. BBC Cymru, 19xx.
- Y Wraig sy'n Llosgi stori fer gan Frank Roger, cyfieithwyd gan Catrin Gilkes, Taliesin cyf. 128 (Haf 2006)
- Prif erthygl: Cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg.
Mae Cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg yn adlewyrchu y traddodiad hir o drosi o'r prif ieithoedd ewropeaidd i'r Gymraeg gan osgoi fersiynau Saesneg. Roedd Ffrainc Addoliaeth Saunders Lewis yn enwog. Ffrangeg oedd prif iaith athroniaeth, gwleidyddiaeth a ffasiwn am ganrifoedd, tan i Saesneg ei disodli yn ail haner yr 20g. Isod mae rhestr o'r deunydd sydd ar gael y y Gymraeg.
- Un gerdd yn y gasgliad Y ffynnon sy'n ffrydio: blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
- Storïau o'r Gaeleg …, torïau byrion "Burn is Aran" gan Iain Mac a'Ghobhainn cyfieithwyd gan Donald Gwyon Howells (Gwasg John Penri, 1970)
- Awen y Gael, blodeugerdd & farddoniaeth Aeleg o'r 15g hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf, cyfieithwyd gan John Stoddart. Caernarfon: Cyhoeddiadau Barddas, 1987)
- Cerddi Gaeleg Cyfoes (1937–82), cyfieithwyd gan John Stoddart, Cyfres Barddoniaeth y Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)
- "Ein Hiaith a'n Brethyn", cerdd "Ar Cànan 's ar Clò" gan Anna Frater. Cyfieithiad gan Cennard Davies, Taliesin 128 (Haf 2006)
- "Murchadh …" stori fer gan Iain Mac a'Ghobhainn cyfieithwyd gan Mary Scammell, Taliesin 104 (Ionawr 1999)
- Storïau Byrion (Scribhinni 1919) gan Padraig Pearse, cyfieithwyd gan Gwynn ap Gwilym (Llyfrau'r Faner, 1980)
- Y Peint (An Pionta), Gwybod (Fios), cyfieithwyd gan Trefor P. Owen. Nodiadau ar, a straeon byrion gan, Máirtín Ó Cadhain, yn Storïau Tramor 2, gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- Awen y Gwyddyl: detholiad o chyfieithiadau gan T. Gwynn Jones, Cyfres y Werin, rhif 9 (Caerdydd: Cwmni Cyhoeddi Addysgol, 1923)
- Ystoriau Byr o'r Wyddeleg gan Pádraic Ó Conaire (1882-1928) Cyfieithwyr Tomás Ó Cléirigh a David Myrddin Lloyd; Gwasg Gomer, Llandysul, 1934.
- Storïau ac Ysgrifau gan Pádraic Ó Conaire, Trosiadau o'r Wyddeleg gan J. E. Caerwyn Williams (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1949)
- Ysgrifennu ar gyfer neb, Gabriel Rosenstock, darlith ar Lenyddiaith Gwyddeleg heddiw, troswyd gan Menna Cravos, Taliesin 130 (Gwanwyn 2007)
- Pannwr Saffrwm a ysgogwyd gan Pangur Ban cerdd o'r 9ed ganrif, ysgrifennwyd gan Mary Scammell, Taliesin 135 (Gaeaf 2008)
- Aistriuchain (Cyfieithiadau) cerdd gan Gearoid Mac Lachlain, cyfieithiad gan Aled Llion a Mererid Puw Davies, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Galarnad. Cyfieithiad gan Mererid Puw Davies o gerdd Wyddeleg gan Cathal Ó Searcaidh, Taliesin127 (Gwanwyn 2006)
- Monotonia (Μονοτονία) cerdd o 1908 gan Constantinos Cafaffi (Κωνσταντίνος Π. Καβάφης) a gyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin cyf. 37 (Rhagfyr 1978)
- Erthygl helaeth a cherddi gan Constantinos Cafaffi (Κωνσταντίνος Π. Καβάφης) a gyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin 32 (Gorffennaf 1978)
- Oidipus Frenin, un o'r Tri Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen, Cyfres Y Drama yn Ewrop (Gwasg Prifysgol Cymru, 1972)
- Oidipus yn Colonos, un o'r Tri Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) cyfieithiad Euros Bowen, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1979)
- Antigone, cyfieithiad W. J. Gruffydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1950)
- Y Bacchai Euripides, cyfaddasiad Gareth Miles (1991)
- Blodau o Hen Ardd cyfieithiadau gan T. Gwynn Jones o epigramau Groeg a Lladin (Hughes a'i Fab, 1927)
- Moeseg Nicomachaidd Aristoteles - Cyfieithiad o L'Éthique a Nicomaque gan Aristoteles, Addaswyd/Cyfieithwyd gan John FitzGerald (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
- Iliad - Cyfieithiad (addasiad radio) gan Homer, Addaswyd/Cyfieithwyd o'r fersiwn Saesneg gan Derec Llwyd Morgan (Gwasg Gomer, 1976)
- Cerddi Groeg Clasurol cyfieithiad gan J. Henry Jones o'r darn am Danaë (Caerdydd, 1989), gol. gan John Gwyn Griffith.
- "Iffigenia yn Awlis" cyfaddasiad o Yr Oresteia gan Aischolos gan Gareth Miles 2005
- Atgofion Haganah (bywgraffiad o Israel) gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1972)
- Hanes Teulu fy Nhad gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin, Taliesin 29 (Rhagfyr 1974), tud. 36–46
- Cael y Llun yn Iawn, cerdd gan Amir Or, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007)
- "Does dim blodau i'r senorita", stori fer gan Iotam Rewfeni, cyfieithwyd gan Richard Crowe ac Amnon Shapiro, Tu Chwith cyf. 2 (Haf 1994)
- Gemau Hwngari (straeon gan deg awdur Hwngareg cyfieithwyd gan Tamas Kabdebo a Glyn M. Ashton (Gwasg Gee, tua 1965 [dim dyddiad ar y llyfr]). Mae rhagair helaeth ar hanes Lên Fagyareg (Hwngareg)
- Ust! Gwylia!, cerdd gan Endre Gyárfás o'r Hwngareg cyfieithwyd gan Harri Pritchard Jones, Taliesin 51 (Ebrill 1985)
- Tân mewn Tai (Eldur i Husum), cerdd gan Sigurður Pálsson wedi ei chyfieithu gan Mererid Puw Davies, Taliesin 126 (Gaeaf 2005)
- Y Brodyr (Adelphi, tua 170CC) drama gan P. Terentius Afer cyfieithiad gan Arthur O. Morris, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1974)
- Bugeilgerddi Fyrsil cyfieithiad gan Euros Bowen (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Alltud, stori fer gan Annaig Renault, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 86 (Haf 1994), tud. 78–104
- Lila. stori fer gan Annaig Renault, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 91 (Hydref 1995), tud. 29–38
- Blaenau Ffestiniog 1993–1997 Annaig Renault, rhan o Dyddiadur Taith, a droswyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 124 (Gwanwyn 2005)
- Prynhawnddydd (Abardaez), stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Pen ar Bed (Pen Draw'r Byd), stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Taliesin 124 (Gwanwyn 2005)
- I Arall Fyd (En tu all d'an Douar ha d'an Neñv. 1993) gan Per Denez, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks (Llanrwst: Carreg Gwalch, 1997)
- Morforwyn (Llydaweg: Mari Vorgan) gan Roparz Hemon, trosiad i'r Gymraeg gan Rita Williams. Canolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth 1995. ISBN 9781856449441
- Y Meistr (Ar Mestr) drama a cherddi gan Naïg Rozmor cyfieithwyd gan Rita Williams Emgleo Breiz, Liogan (Llydaw) (Rhagfyr 2000)
- Angerdd Angeuol, tair stori fer gan Per Denez, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Jenny Pye a Gwenno Sven-Meyer (Aberystwyth: Prifysgol Cymru, 2004)
- Lleidr Plentyndod ("Aet o Yaouankiz gant al Laer" o'r cyfrol Warc'hoazh e tarzho c'hoazh an deiz, 2006) gan Per Denez, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhifyn 51 a 52 (2009)
- Diawl yn y tŷ gan Jakez Riou, cyfieithwyd gan J. E. Caerwyn Williams (Gwasg Gee, 1972)
- Du a Gwyn (Gwenn ha Du). cerddi cyfoes o Lydaw gan wahaonol Feirdd yn cynnwys Anjela Duval, Glenmor, a Roparz Hemon, cyfieithwyd gan Mikael Madeg, a Dewi Morris Jones (Aberystwyth: Prifysgol Cymru, 2004)
- Kaurentina, Brenhines ei Galon (Rouanez e Galon), Menyw Dda (Ur Vaouez Vat) cyfieithwyd gan Rita Williams. Nodiadau ar, a straeon byrion gan, Roparz Hemon, yn Storïau Tramor 2, gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- Cyfieithiadau o'r Llydaweg yn y cylchgrawn Newyddion Llydaw Keleier Breizh ers 2005 o dan yr enw Breizh-Llydaw
- Ar Baganiz (Y Dryllwyr) gan Tangi Malmanche; cyfieithydd Gwyn Griffiths yn Dramâu o’r Llydaweg (Christopher Davies, 1982)
- Intanvez Arzhur (Y Weddw) gan Tangi Malmanche; cyfieithydd Gwyn Griffiths yn Dramâu o’r Llydaweg (Christopher Davies, 1982)
- Helynt y Pibydd, a chwedlau eraill. Wedi eu trosi o'r Llydaweg gan Geraint Dyfnallt Owen Gwasg Aberystwyth, 1932
- Straeon o'r Llydaweg (wedi ei trosi i Gymraeg) gan Geraint Dyfnallt Owen London : Gwasg Gymraeg Foyle, [1945]
Llyfryddiaeth
golygu- Annaig Renault, Women Writers in Breton (The Celtic Pen 1:2, 1993)
- Rhisiart Hincks, I Gadw Mamiaith Mor Hen; Cyflwyniad i ddechreuadau ysgolheictod Llydaweg (Gwasg Gomer, 1995)
- Gwyn Griffiths, Llydaw: ei llen a'i llwybrau (Gwasg Gomer, 2000) (teithlyfr gyda sylwadau ar lên Llydaw)
- Gwyn Griffiths a Jacqueline Gibson, The Turn of the Ermine - An Anthology of Breton Literature dros 500 tudalen y rhan fwyaf yn ddarnau Llydaweg a chyfieithiad Saesneg (Francis Bootle, 2006)
- Cyfweliad â Llenor Llydaweg: Mikel Madeg, Taliesin 115 (Haf 2002)
- Rita Williams, Ronan Huon 1922–2003, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Jacqueline Gibson, Per Denez 1921–2011, Barn rhif 585 (Hydref 2011)
- Heather Williams, Diffinio dwy lenyddiaeth Llydawv, Tu Chwith 12 (1999), tud. 51–6
- Heather Williams, Diffinio Llydaw, Y Traethodydd 157 (2002), tud. 197–208
- Heather Williams, Ar drywydd Celtigrwydd: Auguste Brizeux, Y Traethodydd 156 (2006), tud. 34–50
- Heather Williams, Chwedlau ac arferion marwolaeth Llydaw, Llên Cymru 34 (2011), tud. 216–25
- Atlantis. cerdd gan Robert Alan Jamieson, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007). Eithaf tebyg bod Shetlandeg "Sgoteg" yw hyn yn lle'r Norn go iawn.
- Hedda Gabler (drama o 1890) gan Henrik Ibsen. cyfieithwyd gan Tom Parry ac R. H. Jones (Bangor, Cymdeithas Ddrama Gymraeg, 1930)
- Rhywun wrth y Drws (Bygmaster Solness), drama gan Henrik Ibsen. Cyfieithiad gan John Lasarus Williams (hefyd y cyhoeddwr) 2004
- Y Ffaith nad yw'r Adar yn Canu (At Fyglene Ikke Singer), cerdd gan Jan Erik Vold wedi ei chyfieithu gan Mererid Puw Davies, Taliesin 126 (Gaeaf 2005)
- Po gyflymaf y cerddaf, lleiaf yr af gan Kjersti Annesdatter Skomsvold, cyfieithiad o'r Norwyeg gan Mererid Puw Davies, Taliesin 141 (Haf 2010)
- "Merch fy Nhad" gan Mareike Krügel, cyfieithiad o'r Norwyeg gan Mererid Puw Davies, Taliesin 140 (Haf 2010)
- Rubaiyat Omar Khayyam, trosiad gan John Morris-Jones, 1928, Gwasg Gregynog
- Bannau Llên Pwyl (casgliad o gerddi a rhyddiaeth), cyfieithwyd gan T Hudson Williams (Gwasg Aberystwyth, 1953)
- Storïau Byr o'r Bwyleg, trosiad gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1974), yn cynnwys storïau Gwyliwr y Goleudy (Latarnik) a Ianco'r Cerddor (Janko Muzykant) gan Henryk Sienkiewicz (camenwyd a chamsillafwyd "Bolestaw Pruss" fel awdur Gwyliwr y Goleudy yn y gyfrol) ac Y Wasgod (Kamizelka) a Y Dychweledig Don (Powracająca fala) gan Bolesław Prus.
- Lludw a Diemwnt (Popiół i diament) gan Jerzy Andrzejewski, addasiad gan John Elwyn Jones (Gwasg Gomer Press, 1976)
- Beirniadaeth ar Lludw a Diemwnt gan John Rowlands, Taliesin cyf. 32 (Gorffennaf 1976)
- Detholiad o'i Gerddi gan Zbigniew Herbert, trosiad gan John Elwyn Jones, Gwyn Thomas, Nesta Wyn Jones, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V (1985)
- Nostra Vita, cerdd gan Tadeusz Pióro, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin cyf. 131 (Haf 2007)
- Oenig (Miorista) hen faled draddodiadol. Cyfieithiad gan Gerald Morgan, Taliesin cyf. 76 (Mawrth 1992), tud. 25–29
- Y blaidd hud a chwedlau er aill; wedi eu trosi o'r Rwmaneg.
gan Geraint Dyfnallt Owen [Aberystwyth] Gwasg Aberystwyth, 1949
- Un Diwrnod Ifan Denisofitsh (Один день Ивана Денисовича Odin den' Ivana Denisovicha, 1962) gan Alecsandr Solzhenitsyn,(Алекса́ндр Иса́евич Солжени́цын) cyfieithwyd gan W. Gareth Jones, Cyfres yr Academi 5 (Academi Gymreig, 1977)
- Gwylan (Tshaica Чайка 1896) gan Anton Tshechof, cyfieithwyd gan W. Gareth Jones, Cyfres Y Ddrama yn Ewrop (Gwasg Prifysgol Cymru, 1970)
- Ffarwel Gwlsari (Прощай, Гульсары", 1966) gan Tshingiz Aitmatof, (Чингиз Торекулович Айтматов) cyfieithwyd gan W. Gareth Jones (Llyfrau'r Dryw, 1971)
- Storïau Tramor IV (yn cynnwys straeon gan Tshechof) gan Anton Tshechof, (Антон Павлович Чехов) cyfieithwyd gan W. Gareth Jones (Gwasg Gomer, 1977)
- Y Gelli Geirios (Вишнёвый сад, 1904) gan Anton Tshechof (Антон Павлович Чехов), cyfieithwyd gan W. Gareth Jones, Cyfres Dramâu Aberystwyth (CAA, 1993)
- Anfarwol werin: nofel yn ymdrin a helyntion Rwsia yn 1941 gan Fasili Grossman wedi ei chyfieithu o'r Rwseg gan T. Hudson-Williams (Gwasg Aberystwyth, 1945)
- Merch y capten – (Capitanskaa dochka -Капитанская дочка 1836) gan Alecsander Pwshchin; cyf. T. Hudson Williams; Y Clwb Llyfrau Cymreig 1947
- Y Cylch, stori fer gan Fyodor Sologub (Фёдор Сологу́б), cyfieithwyd gan Anhysbys, Taleisin cyf. 3 (Rhagfyr 1978)
- Cerdd i Tsiecoslofacia. cerdd gan Marina Ivanovna Tsvetaeva (Rwseg: Мари́на Ива́новна Цвета́ева, troswyd drwy'r Saesneg, gan Elaine Feinstein a Dafydd Iwan, Taliesin cyf. 130 (Gwanwyn 2007)
- Y Feipen Enfawr gan Aleksei Tolstoy, cyfieithu gan Elin Meek, Cyhoeddwr: Llyfrau Barefoot Cymru 2006
- Calon Ci" Bwlgacof 1925, chyfieithwyd gan Gareth Miles 1994 - heb ei gyhoeddi eto
- Pedair Drama Fer o'r Rwseg (Tri awdur), cyfieithwyd gan T Hudson Williams. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1964
- Yr Arth (Медвдь 1888) gan Anton Tshechof Антон Павлович Чехов
- Yr Hen Ddiod 'na eto gan Leo Nicolaiefitsh Tolstoi (Лев Никола́евич Толсто́й)
- Y Marchogion (Medny vsadnik Медный всадник 1833) gan Pwshcin (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин)
- Don Juan gan Pwshcin (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин)
- Yr Archwiliwr (Ревизор, 1836) gan Nicolai Gogol, cyfieithwyd gan Llewelyn G Chambers (Gwasg Y Bwthyn, 2007)
- Arolygydd y Llywodraeth (Ревизор, 1836) gan Nicolai Gogol, cyfieithwyd gan Siôn Eirian (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 2006)
- Plentyndod (Detstvo Детство, 1852) gan Leo Nicolaiefitsh Tolstoi (Лев Никола́евич Толсто́й) cyfieithwyd gan Rhian Warburton, Cyfres yr Academi (1997)
- Cosaciaid (Kazaki Казаки, 1863) gan Leo Nicolaiefitsh Tolstoi (Лев Никола́евич Толсто́й) cyfieithwyd gan Caryl Davies, Cyfres yr Academi (1997)
- Ar y Trothwy (Nacanwne Накануне, 1860) gan Ifan Sergeiefitsh Twrgenef (Иван Сергеевич Тургенев) cyfieithwyd gan Dilwyn Ellis Hughes, Cyfres yr Academi (1983)
Gweler hefyd
golygu- Eliot, Pwshcin, Poe (1948), astudiaeth gan Aneirin Talfan Davies (Llandebie: Llyfrau'r Dryw, 1948)
- Prif erthygl: Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg.
Mae cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn draddodiad hen gan y Cymry. Taith y Pererin hyd at nofelau Harry Potter mae'r Saesneg yn sicr yw prif iaith 'trosi' i'r Gymraeg. Yn y blynyddau diwethaf mae Gweithdai cyfieithu barddoniaith o un iaith leiafrifol i'r llall yn digwydd drwy un o'r ieithoedd dominyddol ond y Saesneg yn bennaf.
- Anturiaethau Don Cwicsot [llyfr a lluniau] gan Miguel de Cervantes Saavedra, 1547–1616, wedi eu trosi ac addasu gan J. T. Jones (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1954) (yn ôl ei ragair)
- "Y Gosb Ddiddial" (drama) gan Lope de Vega, chyfieithwyd gan Gareth Miles, Barn cyf. 359 (Rhagfyr 1992)
- Lazarillo de Tormes: ei helyntion a'i brofedigaethau. Nofel wedi'i chyfieithu o'r Sbaeneg gan P. A. L. Jones (Gwasg Gomer, 1970)
- Trafalgar gan Galdos, Benito Perez. Troswyd gan Cyril P. Cule (Caerdydd: Yr Academi Gymreig, 1980)
- Priodas waed (Bodas de sangre) gan Federico García Lorca, 1898–1936, cyfieithiad gan R. Bryn Williams a John Rowlands.
- Y ffynnon sy'n ffrydio: blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
- Walimai gan Isabel Allende, troswyd gan Dewi Wyn Evans, Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004)
- Bannau Macchu Picchu, 1944, (Alturas de Macchu Picchu) gan Pablo Neruda, cyfieithiad gan Harri Webb, Barn cyf. 230 (Mawrth 1982)
- Platero a minnau (Platero y Yo – 1914) gan J. R. Jiménez, trosiad Cymraeg gan T. Ifor Rees gydag E. T. Griffiths, 1961
- Tomatos. Cerdd gan Pablo Neruda, y cyfieithu gan Ifor ap Glyn, Tu Chwith, cyf. 2 (Haf 1994)
Yr Ariannin
golygu- Yn y Cysgod, stori fer gan Virgilio González, cyfieithiad gan Cathryn Williams, Taliesin cyf. 101 (Gwanwyn 1998)
- Y Froets Amethyst, stori fer gan Virgilio González, cyfieithiad gan Cathryn Williams, Taliesin cyf. 100 (Gwanwyn 1997)
- Etta, stori fer gan Virgilio González, cyfieithiad gan Cathryn Williams, Taliesin cyf. 99 (Hydref 1997)
- Gwreiddiau (Raices), cerdd gan Arie Lloyd de Lewis, cyfieithiad gan Gareth Miles, Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004)
- El Riflero de Ffos Halen (Y Gaucho o Ffos Halen) gan Carlos D. Ferrari, cyfieithu gan Gareth Miles, Taliesin cyf. 124 (Gwanwyn 2005)
Llyfryddiaeth Fer
golygu- Cymro Cyfandir y De; adolygiad gan Robyn Lewis ar El Riflero de Ffos Halen (Y Gaucho o Ffos Halen), Taliesin cyf. 124 (Gwanwyn 2005)
- Croesi Ffiniau Diwylliannol Walter A. Brooks a Geraldine Lublin adroddiad ar gynhadledd cyntaf ar Gymry Patagonia Primer Foro Internacional sobre los Galeses en la Patagonia, Taliesin cyf. 125 (Haf 2005)
- Erthygl am Federico García Lorca yn Y Llenor yn Ewrop gol. Gareth Alban Davies a W. Gareth Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
- Cyril P. Cule, "Sbaen adeg ei Rhyfel Gartref", yn Cymro ar Grwydr (Gwasg Gomer, 1941)
- Gareth Miles, Pablo Neruda; Prifardd De America, Taliesin cyf. 132 (Gaeaf 2007)
- Cyril P. Cule, "Barddoniaeth werinol Sbaen", Y Fflam rhifyn cyf. 1, rh. 1 (Nadolig 1946), tud. 24–28
- Rhagair helaeth i 'Y ffynnon sy'n ffrydio': blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
- Tair Cerdd gan Ranka Kuic, cyfieithiad gan Gwyn Thomas, Taliesin cyf. 69 (Mawrth 1990)
- Crwydryn yn yr Oes Atomig gan Matej Bor, cyfieithwyd gan Gwyn Erfyl, Taliesin cyf. 29 (Rhagfyr 1974), tud. 47–55
- Hetiau gan Barbara Pogačnik, cyfieithiad o'r Slofeneg gan Damien Walford Davies, Taliesin cyf. 140 (Haf 2010)
- Dewin Ym Mwmin-Gwm gan Tove Jansson (Y Dref Wen, 1975)
- Miss Julie gan August Strindberg, cyfieithwyd gan Glenda Carr a Michael Burns, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991)
Y Cocatŵ Coch (blodeugerdd 500cc – 1981) cyfieithwyd gan Cedric Maby, Yr Academi Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987)
Gweler hefyd
golyguDarllen pellach
golygu- Sioned Puw Rowlands, "Y We a Hyrwyddo Llenyddiaeth Cymru Tramor", Taliesin cyf. 111 (Gwanwyn 2001)
- Aled Llion a Mererid Puw Davies, "Adroddiad o Weithdy Cyfieithu Barddoniaeth", Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004)
- Angharad Price, "Cyfoeth Cyfieithu", Taliesin cyf. 100 (Gaeaf 1997), tud. 10–38
- Cronfa Cyfieithiadau i'r Gymraeg ar wefan Y Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol . https://www.porth.ac.uk/cyfieithiadau/?teitl=Storïau%20Tramor%20II[dolen farw]