Motiff clasuraidd yn y celfyddydau addurnol, pensaernïaeth, a cherfluniaeth ar ffurf cynrychiolaeth arddulliedig o ddeilen bigog Acanthus spinosus (troed yr arth) yw acanthws.[1][2]

Acanthws
Llinell amser o arddulliau'r acanthws: a) Groegaidd; b) Rhufeinig; c) Bysantaidd; d) Romanésg; e & f) Gothig; g) Y Dadeni; h & i) Baróc; j & k) Rococo
Enghraifft o'r canlynoldecoration Edit this on Wikidata
Mathplant-derived motif, elfen bensaernïol, addurn teipograffyddol, ornament Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddiwyd yr acanthws yn gyntaf yng Ngroeg yr Henfyd yn y 5g CC i addurno toeau temlau, ffrisiau muriau, a chapanau colofnau'r dull Corinthaidd. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y motiff gan y Rhufeiniaid yn y dull Cyfansawdd, sydd yn cyfuno dail yr acanthws â throellau sydd yn debig i gyrn hwrdd.[2] Parhaodd yn elfen bensaernïol, ar wahanol ffurfiau, ar draws Ewrop yn yr Henfyd Diweddar a'r Oesoedd Canol, gan gynnwys y cyfnodau Romanésg a Gothig. Daeth yn fwy boblogaidd ym mhensaernïaeth y Dadeni, ac hefyd wrth gerfio dodrefn. Byddai'n motiff poblogaidd mewn arddulliau pensaernïol adfywiol megis neo-glasuriaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1.  acanthws. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Mai 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Acanthus (ornamental motif). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mai 2023.