Aciclovir

cyfansoddyn cemegol

Mae aciclovir yn gyffur gwrthfiraol sy’n cael ei ddefnyddio i drin heintiau herpes.[1][2]

Aciclovir
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathnucleoside analogue Edit this on Wikidata
Màs225.086 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₈h₁₁n₅o₃ edit this on wikidata
Enw WHOAciclovir edit this on wikidata
Clefydau i'w trinHerpes gwenerol, brech ieir, yr eryr, herpes syml, haint firol epstein–barr, varicella zoster infection, enseffalitis, herpes simplex virus meningoencephalitis edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aciclovir
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathnucleoside analogue Edit this on Wikidata
Màs225.086 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₈h₁₁n₅o₃ edit this on wikidata
Enw WHOAciclovir edit this on wikidata
Clefydau i'w trinHerpes gwenerol, brech ieir, yr eryr, herpes syml, haint firol epstein–barr, varicella zoster infection, enseffalitis, herpes simplex virus meningoencephalitis edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes golygu

Cafodd aciclovir ei greu yng nghanol y 1970au gan gael ei weld fel dechrau cyfnod newydd mewn therapi gwrthfiraol. Cafodd ei hynysu o sbwng Caribïaidd, Cryptotethya crypta[3]. Derbyniodd un o’i ddyfeiswyr Gertrude B. Elion y Wobr Nobel am Feddygaeth ym 1988, yn rhannol am ei gwaith ar ddatblygu’r moddion[4]

Defnydd golygu

Mae’r gwahanol fathau o firysau herpes yn gyfrifol am nifer o afiechydon. Mae herpes simplex yn achosi’r dolur annwyd a herpes gwenerol, a symptomau tebyg yn y llygaid (herpes keratitis), y dwylo (ffelwm herpes) ac yn yr ymennydd (herpes enceffalitis), a’r anws. Mae’r firws farisela herpes zoster yn achosi brech yr ieir a’r eryr. Mae tua 130 o wahanol fathau o firws herpes gyda 9 ohonynt yn effeithio ar fodau dynol.

Gellir defnyddio aciclovir i drin y rhan fwyaf o heintiau herpes. Mae ar gael ar ffurf tabledi, hufen, eli llygaid ac ar gyfer chwistrell. Mae’r hufen a’r eli yn cael eu defnyddio yn gyffredin i drin doluriau annwyd. Gall cyflymu’r broses o iachau’r dolur cyn belled â’i fod yn cael ei ddefnyddio cyn gynted a bod symptomau yn ymddangos[1]. Mae eli ar gael i drin herpes yn y llygaid a’r ffelwm. Mae’r tabledi a’r chwistrellau yn cael eu defnyddio i ymdrin â mathau mwy difrifol o herpes megis brech yr ieir, yr eryr a herpes gwenerol. Gall tabledi hefyd cael eu defnyddio i atal datblygiad heintiau herpes mewn pobl sydd ag imiwnedd isel[5].

Brandio golygu

Mae aciclovir ar gael fel meddyginiaeth generig. Mae hefyd yn cael ei ddosbarthu yng ngwledydd Prydain o dan yr enwau Action Cold Sore Cream, Boots Avert, Cymex, Ultra, Lypsol Aciclovir 5%, Soothelip, Virasorb, a Zovirax. Mae’r cyffur ar gael ar ffurf eli a hufen dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd yng ngwledydd Prydain. Mae angen presgripsiwn ar gyfer tabledi a chwistrell[1].

Sgil effeithiau golygu

Prin yw’r sgil effeithiau sy’n gysylltiedig ag aciclovir ond mae rhai cleifion wedi adrodd eu bod yn [6]

  • Teimlo’n gyfoglyd, yn cyfogi neu’n cael poen bol ar ôl ei ddefnyddio
  • Yn cosi ar ôl ei ddefnyddio
  • Yn cael cur pen
  • Yn ddioddef o’r dolur rhydd
  • Yn teimlo’n gysglyd neu’n benysgafn

Beichiogrwydd golygu

Does dim risg wedi ei nodi o ddefnyddio eli na hylif. Prin yw’r risg o ddefnyddio’r moddion fel tabled neu chwistrelliad, ond dylai merched sy’n bwriadu dechrau teulu neu’n canfod eu bod yn feichiog wrth ddefnyddio’r feddyginiaeth trafod eu triniaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol.

Gyrru golygu

Ac eithrio bod y cyffur yn gwneud y claf yn gysglyd neu’n benysgafn, does dim rheswm dros beidio gyrru.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
  2. de Clercq, Erik; Field, Hugh J (5 Hydref 2005). "Antiviral prodrugs – the development of successful prodrug strategies for antiviral chemotherapy". British Journal of Pharmacology. 147 (1). Wiley-Blackwell (cyhoeddwyd Ionawr 2006). tt. 1–11. doi:10.1038/sj.bjp.0706446. PMC 1615839. PMID 16284630.
  3. Garrison, Tom (1999). Oceanography: An Invitation to Marine Science, 3rd ed. Belmont, CA: Wadsworth Publishing Company. t. 471.
  4. Elion, Gertrude; Furman PA; Fyfe, James A.; De Miranda, Paulo; Beauchamp, Lilia; Schaeffer, Howard J. (1977). "Selectivity of action of an antiherpetic agent, 9-(2-hydroxyethoxymethyl)guanine". Proc Natl Acad Sci USA 74 (12): 5716–5720. Bibcode 1977PNAS...74.5716E. doi:10.1073/pnas.74.12.5716. PMC 431864. PMID 202961. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=431864.
  5. "EMC+ PATIENT INFORMATION LEAFLET Aciclovir 200mg, 400mg and 800mg tablets". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-15. Cyrchwyd 2017-08-06.
  6. Aciclovir for viral infections (Zovirax)

Rhybudd Cyngor Meddygol golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!