Ceir dolur annwyd (hefyd crachen annwyd) o ganlyniad i wefus person gael ei heintio gan feirws o'r enw ‘herpes simplecs’. Gall achosi swigod neu ddoluriau oddeutu'r geg.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Pan effeithir y wyneb cyfan gelwir y cyflwr yn ‘herpes geneuol-wynebol’; a ‘stomatitis herpetig’ pan effeithir y geg yn unig. Ystyr y gair Groeg stomatitis ‘llid y geg’ ydy ceg (stoma). Mae doluriau annwyd fel arfer yn gwella ar ôl tua tair wythnos ond mae'r feirws a achosodd y doluriau'n parhau yn y corff. Byw yn nerfau'r wyneb mae'r feirws hwn.

Gwellhad golygu

 
Dolur anwyd ar wefus ucha

Nid oes gwellad llwyr i'w gael rhagddo. Ond mae meddyginiaeth gwrthfeirws yn medru lleihau'r amser a lleihau'r nifer o weithiau mae'n codi i'r wyneb.

Meddygaeth amgen golygu

Dywedir fod y llysiau canlynol yn help i leddfu'r boen: Bergamot, Saets y waun.

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato