Adam Brody

sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn San Diego yn 1979

Mae Adam Jared Brody (ganed 15 Rhagfyr 1979) yn actor teledu a ffilm Americanaidd ac yn gerddor rhan amser. Dechreuodd ei yrfa ar ddechrau'r 2000au, gan ymddangos ar Gilmore Girls a chyfresi eraill, cyn dod i amlygrwydd tra'n chwarae rhan Seth Cohen yn The O.C.. Mae ef hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Mr. & Mrs. Smith gyda Brad Pitt ac Angelina Jolie.

Adam Brody
GanwydAdam Jared Brody Edit this on Wikidata
15 Rhagfyr 1979 Edit this on Wikidata
San Diego Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Scripps Ranch
  • MiraCosta College Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cynhyrchydd ffilm, cerddor, actor ffilm, actor teledu, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Taldra180 centimetr Edit this on Wikidata
PriodLeighton Meester Edit this on Wikidata
Gwobr/auTeen Choice Award for Choice TV Actor Drama, Teen Choice Award for Choice TV Actor Drama, Teen Choice Award for Choice TV Actor Drama Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Brody yn Carlsbad, San Diego, Califfornia, yn fab hynaf i'w rieni Iddewig Valerie, artist graffig, a Mark Brody, cyfreithiwr. Mae ganddo ddau frawd sy'n efeilliaid, Sean a Matt. Mynychodd Brody "Wangenheim Middle School" a "Scripps Ranch High School", yn derbyn "graddau gwael", ac fe dyfodd lan yn San Diego, tra'n gwario llawer o'i amser yn syrffio. Mae e wedi dweud, er nad oedd e'n "Casanova", roedd ganddo "gariadon ciwt" a'i fod "bron a bod yn byw ar y traeth". Mynychodd Brody goleg cymunedol am flwyddyn cyn gadael yn un deg naw mlwydd oed, gan symud i Hollywood er mwyn dod yn actor. Yna cyflogodd hyfforddwr actio ac arwyddodd gytundeb gyda rheolwr.

Gyrfa golygu

Ar ôl blwyddyn o hyfforddiant a chlyweliadau, cafodd Brody rôl Barry Williams yn y ffilm deledu 2000 Growing Up Brady. Roedd yn ymddangos ar Gilmore Girls fel Dave Rygalski, a oedd yn yr un band ac yn gariad i Lane. Roedd hefyd ar y gyfres deledu gomedi Ganadaidd The Sausage Factory. Yn 2001, chwaraeodd rôl fechan yn American Pie 2, a gelwir ei gymeriad yn hwnnw yn “high school guy”. Roedd yn un o ddau o blant ysgol a oedd yn cael eu erlid o barti Steve Stifler. Yn 2003, ysgrifennodd “Home Security” (ffilm fer), ac fe ymddangosodd yn y brif ffilm Grind, a dechreuodd chwarae ei rôl fwyaf enwog hyd yn hyn, Seth Cohen, bachgen eithaf lletchwith a oedd yn ei arddegau, ar y gyfres deledu The O.C. Fe drodd y rôl hyn Brody yn seren i bobl yn eu harddegau, gyda’r cymeriad yn cael ei ddigrifio gan y Los Angeles Times fel “TV’s sexiest geek”. Fe achosodd y rôl i Brody gael llawer o ffans benywaidd ac fel canlyniad fe gafodd Brody ei roi yn safle 17 yn y “100 Sexiest Men Alive” gan yr Independent Online, ac roedd ddwywaith wedi ei osod ar restr blynyddol “Teen People” o’r “25 Sexiest Stars under 25”. Fe hefyd oedd y dyn cyntaf ar glawr Elle Girl.

Dros gyfnod y sioe, ymddangosodd Brody ar y cyd â Angelina Jolie a Brad Pitt yn y ffilm Mr. & Mrs. Smith (2005), a chwaraeodd gynorthwy-ydd stiwdio yn addasiad o’r ffilm Thank You for Smoking (2006). Enillodd Brody gontract saith mlynedd fel y cymeriad Seth Cohen yn The O.C, ble roedd yn chwarae cymeriad a oedd yn debyg iddo ef ei hun. Daeth y sioe i ben ym mis Chwefror 2007; dywedodd Brody nad oedd e’n gwbl anhapus fod y sioe yn dod i ben, ac er ei fod yn “ffodus” i fod ar gyfres lwyddiannus, roedd hefyd yn falch nad oedd arni am 10 mlynedd. Ar ôl i The O.C ddod i ben, trodd Brody i yrfa llawn amser mewn ffilm. Ei rôl nesaf oedd y ffilm In The Land of Women, comedi rhamantus a oedd hefyd yn cynnwys Meg Ryan a Kristen Stewart, ac fe gafodd y ffilm ei rhyddhau ar Ebrill 20fed, 2007. Yn y ffilm, mae Brody yn chwarae y prif gymeriad, sef ysgrifennwr sy’n dychwelyd i gartref ei fam yn Michigan, er mwyn gofalu am ei nain sâl. Nid oedd yn rhaid i Brody gael clyweliad ar gyfer y rhan, ond roedd bron yn methu a chymeryd rhan yn y ffilm o achos fod y trefniadau ffilmio yn torri ar draws yr ail gyfres o The O.C; fe ail drefnodd y cyfarwyddwr yn ôl wyth mis am ei fod eisiau Brody fod yn y ffilm. Yn yr un flwyddyn, ymddangosodd Brody hefyd yn y ffilmiau â chyllideb llai fel Smiley Face, yn chwarae deliwr, ac yn Ten Ten, fel awyrblymiwr. Fe ymddangosodd hefyd yn y bennod “Crush” o Smallville.

Cafodd Brody, ynghyd a’r actor Zac Efron, ei ystyried fel y prif gymeriad yn y ffilm Speed Racer, rôl a gafodd ei roi i Emile Hirsch yn y diwedd. Roedd Brody hefyd yn bwriadu cynhyrchu ail wneuthuriad o’r ffilm Revenge of the Nerds, ond fe gafodd ei ganslo yn gynnar yn ystod y cyfnod ffilmio.

Ymddangosodd hefyd yn y fideo o’r gân “Too Bad About Your Girl” gan The Donnas. Mae e a Josh Lucas wedi arwyddo i’r ddrama Death in Love sy’n cael ei chyfarwyddo gan Boaz Yakin. Mae hefyd yn y ffilm arswyd Jennifer’s Body, yn actio ar y cyd gyda Megan Fox. Mae wedi gorffen ffilmio’r ffilm A Couple of Dicks, a gafodd ei ffilmio yn Efrog Newydd, hefyd yn y ffilm mae Bruce Willis a Tracy Morgan.

Bywyd personol golygu

Mae Brody yn byw yn Los Angeles. Roedd yn arfer mynd mas gyda’i gyd-actores Rachel Bilson, perthynas a barodd am dair mlynedd cyn gorffen yn Rhagfyr 2006. Roedd eu perthynas ar sgrîn ac i ffwrdd o’r sgrîn.

Mae Brody yn chwarae’r drymiau i’r band Big Japan gyda’r actor Bret Harrison. Mae’n ysgrifennu caneuon yn ystod ei amser sbar ac mae wedi ysgrifennu ynghyd â Danny Bilson (tad ei cyn-gariad Rachel Bilson) a Paul DiMeo, cyfres fechan o lyfr comic i Wildstorm Comics, a’i elwir yn Red Menace. Mae Brody hefyd wedi gwirfoddoli fel actor gyda’r Young Storytellers Program, sydd wedi ei bwrpasu i ddatblygu llythrennedd, hunanfynegiant a hunanhyder i blant ysgol gynradd.

Mae Brody wedi disgrifio ei hun i fod yn “ffug ddeallus” a’i synnwyr digrifwch fel coeglyd. Mae e’n Iddew seciwlar ac wedi dweud na all fod yn llai crefyddol. Mae Brody wedi dweud fod e wedi dod yn fwy “nerdy” ar ôl symud i Hollywood.

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm
Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
2000 Never Land Jack Rhyddhad cyfyngiedig
The Silencing Karl Rhyddhad cyfyngiedig
Roadside Assistance Rusty Rhyddhad cyfyngiedig
American Pie 2 High School Guy Fersiwn heb ei raddio
According to Spencer Tommy Rhyddhad cyfyngiedig
2002 The Ring Kellen - Teen #3
2003 Home Security Greg Rhyddhad cyfyngiedig
Grind Dustin Knight Rhyddhad cyfyngiedig
Missing Brendan Patrick Calden Rhyddhad cyfyngiedig
2005 Mr. & Mrs. Smith Benjamin Danz
2006 Thank You for Smoking Jack
2007 In the Land of Women Carter Webb
The Ten Stephen Montgomery
Smiley Face Steve the Dealer
2008 Death in Love Asiant talentau Rhyddhad cyfyngiedig
2009 Jennifer's Body Nickolai Wolf
2010 A Couple of Dicks ôl-gynhyrchu
Teledu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1995 Now What Ffilm deledu
1999 The Amanda Show Greg Brady Episod: "When Brady's Attack"
2000 Growing Up Brady Barry Williams Ffilm deledu
City Guys Customer #1 Rhaglen: "Makin' Up is Hard to Do"
Undressed Lucas Tymor 3
Judging Amy Barry "Romeo" Gilmore Rhaglen: "Romeo and Juliet Must Die - Well, Maybe Just Juliet"
Go Fish Billy Rhaglen: "Go Student Council"
Family Law Noel Johnson Rhaglen: "My Brother's Keeper"
2000-2001 Once and Again Coop 3 rhaglen
2002 Smallville Justin Gaines Rhaglen: "Crush"
2000-2002 The Sausage Factory Zack Altman 13 rhaglen
2002-2003 Gilmore Girls Dave Rygalski 9 rhaglen yn nhymor 3
2004 MADtv Seth Cohen Rhaglen: #922
2001-2004 Grounded for Life Brian 2 raglen
2006 The Loop Keith Rhaglen: "The Rusty Trombone"
2003-2007 The O.C. Seth Cohen 92 rhaglen