Adam Smith

athronydd moesol ac economegydd gwleidyddol Albanaidd (1723-1790)

Athronydd Albanaidd oedd Adam Smith (16 Mehefin 172317 Gorffennaf 1790). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur dau lyfr, The Theory of Moral Sentiments (1759), a An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations (1776). Roedd yn un o sylfaenwyr astudiaeth economeg fel pwnc academaidd.

Adam Smith
Ganwyd1723 Edit this on Wikidata
Kirkcaldy Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd5 Mehefin 1723 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1790 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
AddysgLegum Doctor Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaetheconomegydd, awdur ffeithiol, athronydd, ysgrifennwr, academydd, moesolwr Ffrengig, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Theory of Moral Sentiments, The Wealth of Nations Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadFrançois Quesnay Edit this on Wikidata
TadAdam Smith Edit this on Wikidata
MamMargaret Douglas Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Kirkcaldy, Fife, Yr Alban; nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef ar 5 Mehefin 1723. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 14 oed, lle astudiodd athroniaeth foesol. Yn 1740 aeth i Goleg Balliol, Rhydychen.

Yn 1748 dechreuodd roi darlithoedd cyhoeddus yng Nghaeredin, a daeth i adnabod David Hume. Yn 1751 daeth yn Athro rhesymeg ym Mhrifysgol Glasgow. Cyhoeddodd The Theory of Moral Sentiments yn 1759. Ymddangosodd The Wealth of Nations yn 1776, a gwnaeth ei awdur yn enwog.

Ystyrir ef yn un o brif gefnogwyr y syniad o Laissez-faire a'r farchnad rydd; gyda'r egwyddor fod system ecomomaidd lle mae pawb yn dilyn ei les ei hun yn arwain at fwy o gyfoeth i bawb.

Prif weithiau golygu

 
Inquiry into the nature and causes of the wealth of nations, 1922