Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon

Yr adran o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon yn Lloegr, yn ogystal â rhai agweddau o'r cyfryngau ledled y DU gyfan, megis darlledu a'r rhyngrwyd, ydy'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (Saesneg: Department for Digital, Culture, Media and Sport neu DCMS)).

Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon
Enghraifft o'r canlynolAdrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ministry of culture Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1997 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGovernment Art Collection Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadYsgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant Edit this on Wikidata
Isgwmni/auHorserace Betting Levy Board, Treasure Valuation Committee, Government Art Collection Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.gov.uk/dcms Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Adran hefyd yn gyfrifol am y diwydiannau twristiaeth, hamdden a chreadigol. (Mae'n rhannu rhai o'r cyfrifoldebau hyn gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.) Roedd yr Adran hefyd yn gyfrifol am gyflwyno Gemau Olympaidd yr Haf 2012 a Gemau Paralympaidd yr Haf 2012. Mae'r adran yn gyfrifol am oruchwylio S4C a roedd yn arfer ariannu y sianel yn ei gyfanrwydd. Yn 2010 torrwyd y grant i tua £6.8m gyda gweddill cyllid S4C yn dod drwy'r BBC a'r drwydded deledu.

Crëwyd yr Adran ar 11 Ebrill 1992 fel "Adran Treftadaeth Genedlaethol" (Saesneg: Department of National Heritage) yn ystod Llywodraeth John Major o elfennau o weinyddiaethau amrywiol. Cafodd ei ailenwi ar 14 Gorffennaf 1997 fel "Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon" (Saesneg: Department for Culture, Media and Sport) yn ystod Llywodraeth Tony Blair. Cafodd ei ailenwi eto ar 3 Gorffennaf 2017 fel "Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon" yn ystod Llywodraeth Theresa May.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.