Gemau Paralympaidd yr Haf 2012
Cynhaliwyd digwyddiad aml-chwaraeon Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau Paralympaidd XIV, yn Llundain, Lloegr, o 29 Awst tan 9 Medi 2012, yn fuan wedi Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yn yr un ddinas.
Enghraifft o'r canlynol | Summer Paralympic Games |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Dechreuwyd | 29 Awst 2012 |
Daeth i ben | 9 Medi 2012 |
Lleoliad | Llundain |
Gwefan | https://www.paralympic.org/london-2012 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae perthynas hanesyddol rhwng y Deyrnas Unedig a'r Gemau Paralympaidd. Ym 1948, cynhaliwyd rhagflaenydd y Gemau Paralymaidd, sef Gemau Stoke Mandeville ym mhentref Stoke Mandeville, Lloegr. Trefnwyd hwy gan Dr. Ludwig Guttmann ac Ysbyty Stoke Mandeville, fel gemau athletau ar gyfer cyn-filwyr o'r Ail Ryfel Byd a oedd â anafiadau i'w madruddyn cefn, gan gyd-ddigwydd gyda cychwyn Gemau Olympaidd yr Haf 1948. Dyma oedd y digwyddiad athletau cyntaf erioed a drefnwyd ar gyfer yr anabl, ac erbyn 1960, roedd wedi esblygu i ddod yn Gemau Paralympaidd.[1] Roedd Stoke Mandeville yn westeiwyr i Gemau Paralympaidd yr Haf 1984 ynghyd â Long Island yr Unol Daleithiau, wedi i'r gwesteiwyr gwreiddiol, Prifysgol Illinois yn Champaign, Illinois, dynnu allan oherwydd problemau ariannol.[2]
Agorwyd y gemau'n swyddogol gan Ei Mawrhydi, Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.[3]
Datblygiad a pharatoadau
golyguYnghyd â'r Gemau Olympaidd, trefnwyd Gemau Paralympadd yr Haf 2012 gan LOCOG a'r Olympic Delivery Authority (ODA). LOCOG oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r Gemau, tra bod ODA yn delio gyda'r strwythur a'r lleoliadau.
Tocynnau
golyguRoedd galw uchel am y 2.5 miliwn o docynnau a oedd ar gael ar gyfer Gemau Paralympaidd yr Haf 2012; erbyn 22 Awst 2012, roedd 2.3 miliwn wedi eu gwerthu.[4] Yn hanesyddol, yn ystod y Gemau Olympaidd y gwerthwyd y rhan helaeth o'r tocynnau Paralympaidd, ond ar gyfer y gemau rhain roedd 1.4 miliwn o docynnau eisoes wedi eu gwerthu cyn i'r Gemau Olympaidd gychwyn, gan ragori ar y cyfanswm a werthwyd yn Sydney.[5] Roedd cymaint o alw am y tocynnau yr achosodd problemau technegol i'r wefan, a redwyd gan Ticketmaster, a sefydlwyd i werthu'r tocynnau; bu nifer o gwynion gan defnyddwyr y wefan drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan bobl oedd yn cael trafferth prynu eu tocynnau ar gyfer y gemau.[6]
Ar 8 Awst 2012, datganodd LOCOG eu bod wedi gwerthu 2.1 miliwn o docynnau Paralympaidd, 600,000 mewn ond mis, gan dorri'r record o 1.8 miliwn o docynnau a werthwyd yn Beijing. Rhoddodd llywydd yr IPC, Philip Craven, longyfarchiadau i Lundain am y gamp, gan nodi ei fod yn addas i fan geni ysbryd y Gemau Paralympaidd werthu cryn gymaint.[5] Roedd llwyddiant Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd a diddordeb gan gefnogwyr y "Blade Runner", Oscar Pistorius y rhedwr o Dde Affrica, a oedd wedi dod yr amputee dwbl cyntaf erioed i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, wedi rhoi hwb i'r gwerthiant yn yr wythnosau'n arwain at y Gemau Paralympaidd.[7]
Cododd helynt ynglŷn â'r rheolau seti ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, wedi i ddwy fam anabl gyhuddo'r trefnwyr o fod â pholisiau gwahaniaethol. Honodd un bod aelod o staff LOCOG wedi dweud wrthi y gallai defnyddwyr cadair olwyn yn y Velodrome ond cael un oedolyn gyda hwy, ac na allai blant ddod heb fod oedolyn arall abl yno i ofalu amdanynt. Dywedwyd wrth y fam arall na allent warantu y byddai'n gallu eistedd gyda'i phlant yn ExCeL London. Cychwynwyd deiseb ar Change.org i wella'r hygyrchedd ar gyfer teuluoedd anabl, ac yn fuan iawn casglwyd dros 30,000 o lofnodion. Gwadodd LOCOG fod eu polisiau'n wahaniaethol, gan ddweud y gall rieni anabl ofalu am eu plant mewn ardaloedd seddi cadair olwyn wrth wylio digwyddiadau oedd heb seddi wedi eu cadw, ond na allent eistedd gyda'i gilydd lle'r oedd y seddi ar gadw.[8][9]
Logo
golyguRoedd logo Gemau Paralympaidd yr Haf 2012 yn rhannu cynllun logo'r Gemau Olympaidd.[10] Dyluniwyd gan Wolff Olins, a cyhoeddwyd gyntaf ar 4 Mehefin 2007; mae'n ddehongliad o'r rhif 2012.[11] Defnyddiodd y fersiwn Paralympaidd liwiau gwahanol, gan gyfnewid yr "agitos" Paralympaidd am y Cylchoedd Olympaidd.[12]
Mascot
golyguMandeville oedd mascot swyddogol Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, a dadorchuddwyd ynghyd â'r mascot Olympaidd, Wenlock, ar 19 Mai 2010. Mae'r cymeriadau yn cymryd siap diferau o ddur toddedig o'r gwaith dur yn Bolton, ac mae ganddynt un llygad tebyg i gamera, gan gynrychioli ffocws a'r holl gamerâu a ddefnyddwyd i recordio'r gemau. Derbynir Mandeville ei enw fel anrhydedd i bentref Stoke Mandeville oherwydd ei bwysigrwydd yn hanes y Gemau Paralympaidd. Mae Mandeville hefyd yn gwisgo helmed aeroddynamig â lliwiau coch, gwyrdd a glas y logo Paralympaidd.[13][14]
Y chwaraeon
golyguCyfranogwyr
golyguGemau Llundain oedd y gemau Paralympaidd mwyaf erioed hyd 2012.[15] Amcangyfrwyd y byddai 4,200 o chwaraewyr yn cystadlu yn y gemau, cynnydd o 250 dros Gemau Paralympaidd yr Haf 2008. Roeddent yn cynrychioli 165 gwlad, 19 yn fwy nag oedd yn Beijing. Roedd 15 gwlad yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf: Antigwa a Barbiwda, Brwnei, Camerŵn, Comoros, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Jibwti, y Gambia, Gini Bisaw, Liberia, Malawi, Mosambic, Gogledd Corea, San Marino, Ynysoedd Solomon ac Ynysoedd irgin yr Unol Daleithiau.[15] Roedd Trinidad a Tobago hefyd yn dychwelyd i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf ers 1988.[16][17]
Anfonwyd chwaraewyr i'r gemau gan y Pwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol:[18]
Chwaraeon
golyguCystadlwyd ugain o wahanol chwaraeon yn ystod Gemau Paralympaidd 2012.[27]
Am y tro cyntaf ers 2000, roedd gemau ar gyfer chwaraewyr gyda anabledd meddyliol yn dychwelyd i'r Gemau Paralympaidd; gyda cystadlaethau athletau, nofio a tenis bwrdd.[28][29] Roedd cystadlaethau ar gyfer chwaraewyr gydag anabledd meddyliol wedi cael eu atal dros dro yn dilyn Gemau Paralympaidd yr Haf 2000, er mwyn galluogi'r PPRh i ail-werthuso sut y gallent eu cynnwys, gan y bu helynt yn 2000, pan dwyllodd y tîm pêl-fasged Sbaenaidd, a tynnwyd y fedal aur oddi arnynt, wedi canfod mai dim ond 2 allan o 12 o'r chwaraewyr oedd yn gymwys i gystadlu yn y categori hwnnw.[30]
Dynodir y nifer o gystadlaethau a gynhelir ym mhob chwaraeon yn y cromfachau
|
|
|
Calendr
golyguCyhoeddwyd yr amserlen Paralympaidd ar 25 Awst 2011.[31]
Darlledu
golygu- Prydain Fawr : Channel 4 a ddarlledodd y Gemau, gyda dros 150 awr o deledu byw ar Channel 4 a More4, a 3 sianel ychwanegol ar Sky (llun safonol a clirlun) ac ar wefan Channel 4. Dyma oedd y darllediad dwysaf o'r Gemau Paralympaidd yn y Deyrnas Unedig erioed.[32][33] Darlledwyd y Gemau Paralympaidd ar y radio gan y BBC, ar sianeli BBC Radio 5 Live a 5 Live Sports Extra.[34]
- Awstralia : Australian Broadcasting Corporation a ddarlledodd y Gemau, ar eu sianel digidol, ABC2 yn bennaf. Darlledwyd dros 100 awr o deledu byw gan gynnwys y seremonïau agoriadol a chloi.[35]
- Brasil : Rede Globo a Sportv. Sportv a wnaeth y rhan helaeth o'r darlledu, ond darlledodd Globo rhai cystadlaethau'n fyw.[36]
- Canada : CTV (Saesneg) a RDS (Ffrangeg). Darlledwyd rhaglenni dyddiol awr o hyd yn dangos uchelbwyntiau'r cystadlu, tra darlledwyd y seremoni agoriadol gan Sportsnet One, TSN2, RDS, a RDS2. Roedd gwasanaeth disgrifiad fideo ar gyfer pobl â diffyg gweledol ar AMI-tv.[37] Four online streams will also provide 580 hours of live coverage.[38]
- Colombia : Senal Colombia (Saesneg)
- Denmarc : DR oedd berchen â'r holl hawliau yn Nenmarc, a darlledwyd y Gemau ar sianel DR HD.[19]
- Ewrop : European Broadcasting Union.[39]
- Y Ffindir : Yle, darlledydd y wladwriaeth.[40]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "History of the Paralympics", BBC Sport.
- ↑ Mandeville Legacy: Stoke Mandeville 1984. Adalwyd ar 14 Awst 2012.
- ↑ "London 2012 Overview". International Paralympic Committee. Cyrchwyd 22 Ebrill 2014.
- ↑ Final ticket rush for London 2012: Games are just 200,000 tickets away from becoming first ever sold out Paralympics. The Daily Mail. Adalwyd ar 23 Awst 2012.
- ↑ 5.0 5.1 "2.1m Paralympic tickets snapped up", The Independent.
- ↑ Race is on for Paralympic seats: Event set to sell out... that's if you can actually buy a ticket. The Daily Mail. Adalwyd ar 15 Awst 2012.
- ↑ Nicholas Cecil. Interest in 'Blade Runner' Oscar Pistorius pushes up London 2012 Paralympic ticket sales. The Independent. Adalwyd ar 11 Awst 2012.
- ↑ Paralympics rules 'make disabled feel non-human': Fury after wheelchair-user parents are told they cannot sit with families at event. Daily Mail. Adalwyd ar 18 Awst 2012.
- ↑ Locog assures disabled parents over Paralympic tickets. Channel 4. Adalwyd ar 19 Awst 2012.
- ↑ "London 2012 logo to be unveiled", BBC Sport, 4 Mehefin 2007.
- ↑ "London unveils logo of 2012 Games", BBC Sport, 4 Mehefin 2007.
- ↑ The new London 2012 brand. London 2012 (4 Mehefin 2007). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mehefin 2007. Adalwyd ar 4 Mehefin 2007.
- ↑ The London 2012 mascots. London 2012 (19 Mai 2010). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2010. Adalwyd ar 20 Mai 2010.
- ↑ Gordon Farquhar. "London 2012 unveils Games mascots Wenlock & Mandeville", BBC, 19 Mai 2010.
- ↑ 15.0 15.1 It’s Official – London 2012 to be Biggest Paralympic Games Ever | IPC. Paralympic.org. Adalwyd ar 8 Gorffennaf 2012.
- ↑ Paralympic athletes thrill students. The Guardian (17 Mai 2012).
- ↑ Trinidad & Tobago at the Paralympics. IPC.
- ↑ https://archive.today/20130103164138/www.london2012.com/paralympics/athletes/%23tabFilter-3
- ↑ 19.0 19.1 Jens Gjesse Hansen (17 August 2012). Følg De Paralympiske Lege på DR. Danmarks Radio. Adalwyd ar 19 August 2012.
- ↑ Fiji qualified two athletes, but sprinter Lusiana Rogoimuri was injured in a car accident prior to the Games and had to withdraw. C.f.: "Rogoimuri ruled out of 2012 Paralympics", FijiLive, 23 August 2012
- ↑ BBC News — Jordan's paralympic team arrive in Antrim Forum for training. BBC (8 Awst 2012). Adalwyd ar 13 Awst 2012.
- ↑ Mūsējo sportistu starti Paralimpiskajās spēlēs Londonā 2012. Latfian Paralympic Comittee (10 August 2012). Adalwyd ar 19 August 2012.
- ↑ London games: 500 Days to go!. Ukinlebanon.fco.gov.uk (9 August 2012). Adalwyd ar 13 August 2012.
- ↑ BNS. Paskelbta Lietuvos rinktinė, startuosianti Londono parolimpinėse žaidynėse — DELFI Žinios. Sportas.delfi.lt. Adalwyd ar 13 August 2012.
- ↑ Team South Africa named for 2012 Paralympics. SASCOC. Adalwyd ar 15 August 2012.
- ↑ Comité Paralímpico Español - Juegos Paralímpicos Londres 2012 - Noticias. Paralimpicos.es. Adalwyd ar 14 August 2012.
- ↑ Paralympics organisers feel London is launchpad for mass-market Games. The Guardian (25 Awst 2012).
- ↑ "BBC Sport — Disability Sports — Intellectual disability ban ends", BBC, 21 Tachwedd 2009.
- ↑ PRESIDENT’S NEWSLETTER JULY 2010. International Sports Federation for Persons with Intellectual Disability (Gorffennaf 2010). Adalwyd ar 13 Awst 2012.
- ↑ "BBC Sport — Disability Sports — Paralympics set to alter entry policy", BBC, 13 Medi 2008.
- ↑ "2012 Paralympic schedule revealed", BBC, 25 Awst 2011.
- ↑ Channel 4 to be the Paralympic Broadcaster in the UK in 2012. Channel 4 (8 Ionawr 2010). Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.
- ↑ Unprecedented Rolling Coverage for London 2012 | IPC. Paralympic.org.
- ↑ BBC Paralympic Coverage Details. BBC. Adalwyd ar 27 Awst 2012.
- ↑ Online London 2012 Paralympic Games. Adalwyd ar 20 May 2012.
- ↑ Globo compra direitos da Paraolimpíada 2012 e estuda transmitir eventos ao vivo. Universo Online (7 January 2011). Adalwyd ar 7 January 2012.
- ↑ How to Watch the London 2012 Paralympic Games. CTVOlympics.ca. Adalwyd ar 25 August 2012.
- ↑ Follow Your Team: Canadian Paralympic Committee Announces London 2012 Paralympic Games Coverage. Canadian Paralympic Committee (23 July 2012). Adalwyd ar 12 August 2012.
- ↑ Record-breaking figures for Paralympic broadcast rights. London 2012 Paralympic Games (25 April 2012). Adalwyd ar 12 August 2012.
- ↑ London 2012 Guides and Policies. www.paralympic.org. Adalwyd ar 13 August 2012.