Agor y brif ddewislen

Santes Gristnogol o'r 5g oedd Adwen neu Adwenna.[1][2] a elwid yn forwyn ac yn lleian gan mynaich yr Oesoedd Canol

Santes Adwen
Advent Church-by-Chris-Heaton.jpg
Eglwys yn Advent, Cernyw a gysegrir i Adwen
Tywysoges Brycheiniog
Ganwyd C5
Brycheiniog
Bu farw C5
Cernyw
Prif gysegr Advent, Cernyw
Gwyliau 6 Tachwedd
Nawddsant Pentref Advent, Cernyw

Yn y cofnod Life of Saint Nectan dywedir ei bod yn ferch i Frychan, (fl. 5g), a rhoddodd ei enw i Frycheiniog, a ffurfwyd gan cynghrair o'i feibion ar ddechrau y 6g[3] yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru. Roedd Brychan yn dad i o leiaf 35 o blant gan gynnwys 24 o ferched.[4] Nid yw Adwen ar y rhestr o 24 o ferched Brychan yn y "Cognatio de Brychan"(11g) [3] felly mae yn debyg ei bod yn wyres neu gor-wyres Brychan.[3] Mae hyn yn cael ei gadarnhau yng nghyfrol Robert Hunt (6 Medi 1807 - 17 Hydref 1887), hynafieithydd, am chwedlau o Gernyw.[5] Cofnodir ei bod yn gysylltiedig gyda'r eglwys hon ym mhentref Advent.[2]

Bellach, does neb yn gwbwl sicr pa bryd mae ei dydd gŵyl ond credir bellach mai 6 Tachwedd ydyw. Ceir traddodiad sy'n ei chysylltu gyda chariadon (fel a wneir gyda Dwynwen wedi parhau.[6]

Yr enwGolygu

Ceir y cyfeiriad cyntaf at 'Adwen' yn y 12g yn y llyfr a enwir uchod (Bywyd Sant Nectan) a ysgrifennwyd ar gyfer Abaty Hartland. Dyn oedd y person hwn mewn 6 cyfeiriad Cernyweg allan o 7. Roedd G.H. Noble, a gwnaeth ymchwil am seintiau Cernyw, yn tueddu i dweud fod dynes yn dyn oherwydd nid oedd o yn credu fod dynes yn gallu gwneud rhai o'r pethau a gwnaethpwyd gan santesau. Yn y 18g cymysgwyd yr enw gydag 'Anne'. Mewn llenyddiaeth Gymraeg, yr enw gwreiddiol oedd 'Adwent' ac 'Edwen', a merch ydoedd. Mae'n bosibl, wrth gwrs, fod yma ddwy ferch: y naill o Gernyw a'r llall o Gymru. Awgrymodd rhai haneswyr fod y sant Llydewig 'Ouen' (fel yn ninas Rouen) yr un person, ond bellach, credir fod yntau'n berson gwahanol.[2] Mae'r terfyniad 'wen', yn aml yn golygu'r ffurf fenywaidd yr ansoddair 'gwyn', sef yn y cyswllt hwn - glân a phur.

Amrywiadau yn nhrefn amser

[7]

  • Adwen - 12g
  • Adweny - 1302
  • Adwenni - 1334
  • Athewenne - 1340
  • Audewini - 1447
  • Adwhen - 1447
  • Adven - 1535

Un o'r rhesymau dros yr amrywiadau hyn, o bosibl, yw i rai ohonynt (ee Athewenne, Audewini) gael eu cofnodi gan bersonau nad oeddent yn siarad Cernyweg (neu Gymraeg).[8] Mabwysiadwyd ei henw gan gwmni cynhyrchu trydan ynni gwynt o'r ardal.[9]

Rhai brodyr a chwioryddGolygu

Roedd yn chwaer i: Brychan ap Brychan, Nefydd ferch Brychan, Sant Cynbryd ap Brychan, Rhieingar ferch Brychan, Enfail ferch Brychan ac eraill.[10]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Baring-Gould, Sabine & al. The Lives of the British Saints: The Saints of Wales and Cornwall and Such Irish Saints as Have Dedications in Britain, Cyfr. II, tt. 107 ff. Chas. Clark (Llundain), 1908. Hosted at Archive.org. Adalwyd 18 Tachwedd 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 The Saints of Cornwall tud. 60; adalwyd 26 Ebrill 2016.
  3. 3.0 3.1 3.2 Jones,T.T.,1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog XVII
  4. Doble, G. H. (cyfieithydd). The Life of Saint Nectan. 1941, ailargraffwyd yn Bideford, 1964.
  5. Hunt, Robert. Popular Romances of the West of England: The Drolls, Traditions, and Superstitions of Old Cornwall, 3d ydd.: "Saint Keyne". Chatto & Windus (Llundain), 1903. Adalwyd 18 Tachwedd 2014.
  6. Ellis, P. B. (1992) The Cornish Saints. Penryn: Tor Mark Press, tud. 5
  7. Doble, G.H. gol.Evans, 1984, Lives of the Welsh Saints, Gwasg Prifysgol Cymru
  8. English Church Dedications: With a Survey of Cornwall and Devon gan Nicholas Orme; tud 67.
  9. adwenoffshore.com - Adwen (Advanced Wind Energy); adalwyd 26 Ebrill 2016.
  10. geni.com Gwefan geni.com; adalwyd 26 Ebrill 2016