Agor y brif ddewislen

Santes Dwynwen

santes Geltaiddd o'r 5g
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dwynwen)

Santes oedd Dwynwen ac un o 24 merch Brychan Brycheiniog, yn y 5g.[1] Heddiw hi yw nawddsant cariadon Cymru. Dethlir diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr trwy i gariadon anfon cardiau i'w gilydd.

Santes Dwynwen
DwynwenCross1.jpg
Ganwyd 5G Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw 0460 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Tad Brychan Edit this on Wikidata
Eglwys Sen Adhwynn (Saesneg: St Adwenna) ym mhentref Advent, Cernyw.

Bywyd DwynwenGolygu

Yn ôl yr hanes yr oedd Dwynwen mewn cariad â Maelon, mab pennaeth llwyth arall. Ceisiodd Maelon gymryd mantais rhywiol o'i chariad ond gwrthododd Dwynwen. Gwylltiodd Maelon a'i threisio hi "gan ddwyn malais arni yng gŵydd y byd" [2] Collodd Maelon bob diddordeb ynddi wedyn ("yn troi fel talp o iâ"). Yn ei thrallod dihangodd hi i'r goedwig lle y gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i chariad at Maelon. Gweddïodd yn daer nes blino'n llwyr a syrthiodd i gysgu. Breuddwydiodd ei bod wedi yfed diod oedd yn ei hiacháu hi ond bod Maelon wedi yfed o'r un ddiod a'r diod wedi ei droi yn dalp o iâ. Gwnaeth Dwynwen dri chais mewn gweddi. Yn gyntaf, gofynnodd ar Dduw i ddadmer Maelon. Yn ail gofynnodd i Dduw ateb ei gweddïau dros gariadon fel y buasent, naill ai'n cael dedwyddwch parhaol os oeddent yn caru yn gywir o'r galon, neu yn cael eu hiacháu o'u nwyd a'u traserch. Yn drydydd gofynnodd am beidio â dymuno priodi byth. Ar ôl i'w dymuniadau gael eu gwireddu, daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon.[3]

 
Enghraifft o boblogeiddio Santes Dwynwen o'r 1990au ymlaen, gan Wasg y Lolfa.

Sefydlu Llanddwyn a LlangeinwenGolygu

Symudodd Dwynwen a'i chwaer Ceinwen at berthnasau i Fôn. Sefydlodd Dwynwen ar benrhyn a elwir heddiw'n "Ynys Llanddwyn" ger traeth Niwbwch ond nid oedd yn ynys bryd hynny.[4] Ni bu Llanddwyn yn fan anghysbell yn y 5g fel y mae hi heddiw; y mae'n llai na phum milltir o Aberffraw, un o brif lysoedd Cymru o'r Oes Haearn hyd at yr Oesoedd Canol. Roedd Llanddwyn hefyd yn agos i'r prif llwybr morwrol i Iwerddon – o ollewin Ynys Môn i Dun Laoghaire. Bu Dwynwen fyw yn Llanddwyn tan ei marwolaeth yn 460 O. C.

Dywediadau DwynwenGolygu

  • Priodolir iddi y dywediad "nid enillir calonnau cyn gynted â sirioldeb" a ddyfynnir yng nghân Baring -Gould and Fisher,[2] er eu bod hwy yn cofnodi fersiwn wahanol o'r hanes. Iolo Morgannwg yw ffynhonnell dywediad arall: "A glywaist ti chwedl Dwynwen Santes, merch deg Brychan hen? Nid caruaidd ond llawen" a geir yn llawysgrif 1848'.
 
Adfeilion Eglwys Llanddwyn a'r Groes Geltaidd.

Yn ôl y tair gweddi Lladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor ym 1494, cerddodd Dwynwen yr holl ffordd dros fôr Iwerydd rhag llid Maelgwn Gwynedd. Yn llawysgrifau Iolo Morganwg ceir fersiwn wahanol, sef y fersiwn uchod. Ym marddoniaeth Dafydd Trefor (c.1460–1528) disgrifir cleifion yn cael eu hiacháu gerllaw ei ffynnon a'i chapel. Bu Dwynwen yn enwog ledled Gwynedd yn yr Oesoedd Canol a bu ymweld â Llanddwyn yn boblogaidd iawn.

Dafydd ap GwilymGolygu

Saif adfeilion eglwys Dwynwen, a godwyd yn y 14g, hyd heddiw ar ynys Llanddwyn ar safle y llan wreiddiol. Yn ystod y 14g gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Ddwynwen y tu mewn i'r eglwys. Yn ddewr (neu'n ddigywilydd) gofynnodd iddi fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch a ddymunai ei hennill. Gwnaeth hyn, er fod Morfudd eisoes yn briod.

Coelion y Werin am DdwynwenGolygu

Yn agos i'r eglwys mae ffynnon a elwir "Crochan Dwynwen". Dywedid fod symudiad y pysgod yn y ffynnon yn rhagfynegi ffawd rhywun sy'n dymuno priodi. Cysegrwyd sawl ffynnon iddi, gan gynnwys un ger Niwbwrch, sydd erbyn hyn wedi'i llenwi â thywod. Credid hefyd bod dŵr y ffynnon yn iacháu pobl wael. Arferodd pobl leol ddod â'u hanifeiliaid gwael i Landdwyn. Felly dros y canrifoedd daeth Dwynwen yn noddwraig gwartheg hefyd. Cofnodir un hanes a ddigwyddodd tua 1650 am ychen, a oedd yn gweithio ar y Sul, yn cael braw ac a redodd tua'r môr a boddi. Oherwydd hyn dechreuodd yr arfer o osod canhwyllau yn eglwys Llanddwyn i rwystro trychinebau rhag digwydd i ych aredig.[angen ffynhonnell]

Agweddau at DdwynwenGolygu

Ni ledodd y diddordeb yn Nwynwen y tu allan i Gymru a Chernyw ac ni ddangosodd yr Eglwys Gatholig ddiddordeb ynddi hi fel santes am ganrifoedd. Nid oedd hi'n wyryf; ond ymhlith pobl Môn mae dilyn arferion cysylltiedig â Dwynwen wedi parhau yn ddi-dor.

Ychwanegodd sawl manylyn i 'barchuso' hanes Dwynwen yn ddiweddarach. Honnodd ei bod hi wedi gwrthod priodi Maelon gan nid oedd yn ŵr addas (heb sôn am dreisio), neu awgrymodd fod Brychan wedi gwrthod caniatáu y briodas (fersiwn anhebygol iawn oherwydd yr oedd gan ferched Brycheiniog yr hawl i ddewis eu gŵyr eu hun). Yn yr 20g ailsefydlwyd Dwynwen fel nawddsant cariadon Cymru.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 17 Ionawr 2013
  2. 2.0 2.1 Baring -Gould,s a Fisher, J 1907, Lives of the British Saints, Cymrodorion
  3. Spencer, R, 1990, Saints of Wales and the West Country, Llannerch.
  4. Kidson C, 1994, mewn sgwrs

Dolen allanolGolygu