Aedes aegypti
Ar lafar gwlad, gelwir y mosgito hwn yn fosgito'r dwymyn felen; ei enw gwyddonol (Lladin) ydyw Aedes aegypti. Mae'n cario ac yn ymledu'r dwymyn felen a haint o'r enw'r gwibgymalwst (neu 'deng') yn ogystal â'r firws Zika sy'n gyfrifol am Epidemig y firws Zika a chwalodd drwy Frasil a gwledydd eraill yn yr Americas tua diwedd 2015. Gall hefyd gludo'r firws Chikungunya a nifer o rai eraill i bobl. Mae'n perthyn i'r genws Aedes.
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Aedes |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aedes aegypti | |
---|---|
Oedolyn | |
larfa | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Diptera |
Teulu: | Culicidae |
Genws: | Aedes |
Is-enws: | Stegomyia |
Rhywogaeth: | A. aegypti |
Enw deuenwol | |
Aedes aegypti (Linnaeus yn Hasselquist, 1762) [1] | |
Lleoliad Aedes aegypti yn 2006 (coch a glas). Glas: heb haint deng; coch: deng yn bresennol. | |
Cyfystyron [1] | |
|
Mae'n gymharol hawdd ei adnabod oherwydd y marciau gwyn ar ei goesau, a siap telyn ar ran uchaf ei thoracs. Mae'n frodorol o Affrica[2] ond fe'i ceir, bellach, yn y Trofannau ac ardaloedd is-drofannol drwy'r byd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Neal L. Evenhuis & Samuel M. Gon III (2007). "22. Family Culicidae". In Neal L. Evenhuis (gol.). Catalog of the Diptera of the Australasian and Oceanian Regions (PDF). Bishop Museum. tt. 191–218. Cyrchwyd 4 Chwefror 2012.
- ↑ Laurence Mousson, Catherine Dauga, Thomas Garrigues, Francis Schaffner, Marie Vazeille & Anna-Bella Failloux (Awst 2005). "Phylogeography of Aedes (Stegomyia) aegypti (L.) and Aedes (Stegomyia) albopictus (Skuse) (Diptera: Culicidae) based on mitochondrial DNA variations". Genetics Research 86 (1): 1–11. doi:10.1017/S0016672305007627. PMID 16181519. http://journals.cambridge.org/abstract_S0016672305007627.
- ↑ M. Womack (1993). "The yellow fever mosquito, Aedes aegypti". Wing Beats 5 (4): 4.