Epidemig y firws Zika

Epidemig yn yr Americas

Er bod gwyddonwyr wedi astudio'r Firws Zika o fewn rhuban o diriogaeth o Affrica i Asia ers yr 1950au, ym Mrasil, yn Ebrill 2015 y dechreuodd y feirws ymledu'n wyllt, nes y cyhoeddwyd yn Ionawr 2016 ei fod wedi cyrraedd lefel epidemig yn yr Americas. Ofnir ei fod bellach wedi ymledu, drwy'r mosgito i wledydd eraill yn Ne a Chanol America, Mecsico a'r Caribî.

Y sefyllfa yn Ebrill 2016
DyddiadEbrill 2015 –y presennol[1]
CanlyniadHyd at Mai 2016 roedd 7,982 achos pendant wedi'i gadarnhau yn yr Americas a 485 yn Affrica.

Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd Cyfundrefn Iechyd y Byd ei bod yn bur debygol y gwelir y firws yn ymledu drwy'r rhan fwyaf o'r Americas.[2] Yn Chwefror cyhoeddodd y Gyfundrefn y credant fod cysylltiad rhwng y firws Zika a'r afiechyd Microceffali (lleihad ym maint y pen) a Syndrom Guillain–Barré (y cyhyrau'n gwanhau'n sydyn o achos fod y system imiwnedd yn difrodi'r system nerfol.

Gwraidd y drwg yw'r mosgito Aedes aegypti sy'n eitha cyffredin yn nhrofanau ac isdrofannau De America. Gall Teigr Asia (neu'r mosgito Aedes albopictus) hefyd ei ymledu. Mae'r mosgito yma i'w gael yn eitha cyffredin mor ogleddol a'r Llynnoedd Mawr yn Unol Daleithiau America.[3] Cafwyd sawl achos lle ceir tystiolaeth y gall y firws Zika hefyd ymledu drwy ryw.[4]

Twymyn eitha cyffredin a chochni tebyg i frech dros y croen yw'r unig symtomau a gaiff un pumed y bobl a heintir, a gelwir ef yn 'dwymyn Zika'. Ond pan fo'r mosgito'n ymosod ar ferch feichiog, mae'r baban a gaiff ei eni'n aml yn dioddef o microceffali drwy iddo gael ei heintio gan y fam.

Epidemioleg golygu

Ym Mai 2015, cadarnhaodd gwyddonwyr o Brifysgol Ffederal Bahia mai'r firws Zika oedd y drwg yn y caws, wedi iddynt ddefnyddio techneg a elwir yn RT-PCR.[5] Roedd eu hastudiaeth, yn wreiddiol, wedi'i sefydlu yng ngogledd a dwyrain Brasil: sef ardal Camaçari a dinas Salvador; roeddent yn astudio symtomau tebyg i'r ffliw neu'r gwibgymalwst a elwir hefyd yn 'deng'.[6] Wedi cyfnod o symtomau ffliw, sylwyd fod brech yn ffurfio dros groen y claf. Roedd y patrwm yn eitha tebyg i haint arall sydd wedi ymledu gan y firws Chikungunya.

Erbyn Hydref roedd yr haint wedi cyrraedd Colombia[7] a gwledydd eraill yn America Ladin gan gynnwys ynysoedd y Caribî yn Nhachwedd a Rhagfyr.[8]

Cafwyd, hefyd sawl achos o bobl wedi'u heintio, wedi teithio o'r gwledydd hyn i Ewrop, un mor gynnar a Mawrth 2015 a deithiodd o Frasil i'r Eidal.[9] Cafwyd achosion eraill yn Unol daleithiau'r America[10], Awstralia[11] a thri achos yng ngwledydd Prydain.[12] a thri yng Nghanada erbyn Ionawr 2015.[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Microcephaly – Brazil". World Health Organization. 8 Ionawr 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-01. Cyrchwyd 2016-01-29.
  2. "WHO sees Zika outbreak spreading through the Americas". Reuters. 25 Ionawr 2016. Cyrchwyd 25 Ionawr 2016.
  3. Kraemer, Moritz U.G. et al. (7 Gorffennaf 2015). "The global distribution of the arbovirus vectors Aedes aegypti and Ae. albopictus" (yn en). ELife 4: e08347. doi:10.7554/eLife.08347. ISSN 2050-084X. PMC 4493616. PMID 26126267. http://elifesciences.org/content/4/e08347.
  4. "Zika virus infection 'through sex' reported in US - BBC News". Bbc.co.uk. 1970-01-01. Cyrchwyd 2016-02-04.
  5. "G1 - Identificado vírus causador de doença misteriosa em Salvador e RMS - notícias em Bahia". Bahia. April 2015.
  6. "PRO/AH> Zika virus - Brazil: confirmed Archive Number: 20150519.3370768". Pro-MED-mail. International Society for Infectious Diseases.
  7. "PRO/AH> ZIKA VIRUS - COLOMBIA (03) Archive Number: 20151102.3760111". Pro-MED-mail. International Society for Infectious Diseases.
  8. "PRO/AH> ZIKA VIRUS - AMERICAS (01) Archive Number: 20160108.3921447". Pro-MED-mail. International Society for Infectious Diseases.
  9. Zammarchi, L; Tappe, D; Fortuna, C; Remoli, M; Günther, S; Venturi, G; Bartoloni, A; Schmidt-Chanasit, J (11 Mehefin 2015). "Zika virus infection in a traveller returning to Europe from Brazil, March 2015". Eurosurveillance 20 (23): 21153. doi:10.2807/1560-7917.ES2015.20.23.21153. PMID 26084316.
  10. Sun, Lena H. (20 Ionawr 2016). "CDC: 'Dozen or so' cases of Zika virus among U.S. residents". The Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Ionawr 2016.
  11. "Zika virus found in Australian travelers returning from South America, virologist says". ABC News. Australia. 2016-01-26.
  12. "Zika virus: Three returning UK travellers diagnosed". The Guardian. United Kingdom. 23 Ionawr 2016. Cyrchwyd 24 Ionawr 2016.
  13. "Albertan among three Canadians infected with the Zika virus". CTV Edmonton. Canada. 28 Ionawr 2016. Cyrchwyd 28 Ionawr 2016.