Aeolis

(Ailgyfeiriad o Aeolia)

Roedd Aeolis (Groeg Αιολίς Aiolís) neu Aeolia (Groeg Αιολία Aiolía) yn ardal yng ngogledd-orllewin Asia Leiaf yn y cyfnod clasurol. Roedd y rhan fwyaf o'r diriogaeth gerllaw'r arfordir, ac roedd yn cynnwys ynys Lesbos) a nifer o ynysoedd llai. Roedd yn ffinio â Mysia yn y gogledd, Ionia yn y de a Lydia yn y dwyrain. Yn y cyfnod cynnar roedd y deuddeg dinas bwysicaf yn Aeolis yn annibynnol, ac mewn cynghrair a'i gilydd: Cyme (neu Phriconis), Larissae, Neonteichos, Temnus, Cilla, Notium, Aegiroessa, Pitane, Aegeaeae, Myrina, Gryneia, a Smyrna.

Aeolis
Mathardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39°N 27°E Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Aeolis yn Asia Leiaf