Mae Aertex yn gwmni dillad Prydeinig wedi'i leoli ym Manceinion, a sefydlwyd ym 1888; mae hefyd yn enw'r tecstilau gwreiddiol a gynhyrchwyd gan y cwmni.

Aertex
Math
busnes
Sefydlwyd1888
PencadlysManceinion
Gwefanhttps://aertex.com/ Edit this on Wikidata

Mae'r cwmni'n berchen ar y nod masnach ar gyfer y ffabrig Aertex, deunydd cotwm wedi ei wehyddu'n ysgafn sy'n cael ei ddefnyddio i wneud crysau a dillad isaf. Mae cwmni Aertex yn gwerthu amrywiaeth o ddillad dynion.

Ym 1887 bu Lewis Haslam yn aros mewn gwesty iechyd yn Western Ho!, Dyfnaint. Aeth i drafodaeth gyda dau feddyg, Syr Benjamin Ward Richardson a Dr Richard Green am y pwysigrwydd o wisgo dillad oedd yn caniatáu i'r croen anadlu. Roedd y triawd yn anhapus efo dillad isaf cotwm traddodiadol oedd wedi gweu yn dynn ac yn cadw aer rhag y croen.[1] Roedd dillad isaf wedi eu gwneud o wlanan yn wych tra'n newydd ac yn flewog, gan eu bod yn trapio aer yn y blew, ond o olchi gwlanen roedd yn colli ei naws blewog ac yn troi'n ffelt a oedd yn waeth na chotwm am gadw'r aer i ffwrdd o'r croen. Gan fod Haslam yn berchen ar nifer o fusnesau cotwm penderfynodd y tri i ymchwilio i'r posibilrwydd o wehyddu cotwm mewn ffordd newydd byddai'n caniatáu i gadw aer o fewn ystof ac anwe'r ffabrig. Roedd yr ymchwiliadau'n llwyddiannus. Ym 1888 sefydlodd y cwmni busnes Aertex ym Manceinion i gynhyrchu'r defnydd newydd oedd yn caniatáu i'r croen anadlu a hefyd yn creu rhwystr rhwng gwres y corff ac oerni'r hinsawdd.

Yn dilyn y llwyddiant hwn, daeth Lewis Haslam yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy.

Gwerthiant

golygu

Roedd y cwmni yn llwyddiant ar unwaith. Erbyn 1891 roedd Aertex wedi ei sefydlu fel un o hanfodion cypyrddau dillad yn y dosbarth canol. Bu'r fforiwr Cymreig, H. M. Stanley yn gwisgo dillad Aertex ar rai o'i deithiau, ac wedi cyflwyno'r teulu brenhinol i'r defnydd.[2] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynhyrchwyd rhan o wisg swyddogol Byddin Tir y Merched allan o Aertex. Roedd pob un o luoedd tir Prydain a'r Gymanwlad yn y Dwyrain Pell a'r Dwyrain Canol, yn gwisgo crysau a siacedi Aertex. Dynodwyd y gwisgoedd hyn fel Jungle Green ar gyfer y Dwyrain Pell a Drill Khaki ar gyfer y Dwyrain Canol.

Ym 1959 bu Aertex, a chwmni diodydd poeth Ovaltine, yn noddi ffilm hyfforddi a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Pêl-rwyd. Erbyn y 1960au roedd Aertex wedi dod yn rhan hanfodol o ddillad chware ystod eang o gampau gan gynnwys tenis, criced, pêl-rwyd, a phêl droed. Roedd pencampwyr Wimbledon a thîm pêl droed Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd ym Mecsico 1970 yn gwisgo dillad a gynhyrchwyd allan o ddefnydd Aertex.

Bu Aertex yn parhau i fod yn ddefnydd ar gyfer dillad chwaraeon ymhell i'r 80au gyda chwmnïau megis Adidas yn defnyddio ei phriodweddau unigryw ar gyfer eu dillad.

Aertex Heddiw

golygu

Yn 2018 roedd Aertex yn dal i gael ei werthu trwy'r DU ac yn rhyngwladol trwy ei siop ar lein. Mae'r defnydd yn dal yn boblogaidd ar gyfer dillad ysgol. Mae'r cwmni'n cynhyrchu crysau polo, crysau a dillad isaf ei hun yn ogystal â darparu defnydd i gwmnïau eraill.[3]

Cyfeiriadau

golygu