Gwas neidr mudol

(Ailgyfeiriad o Aeshna mixta)
Gwas neidr mudol
Gwryw
Benyw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Aeshnidae
Genws: Aeshna
Rhywogaeth: A. mixta
Enw deuenwol
Aeshna mixta
(Latreille, 1805)

Gwas neidr bychan o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr mudol (enw gwrywaidd; llu. gweision neidr mudol; Lladin: Aeshna mixta; Saesneg: migrant hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae tiriogaeth yr A. mixta yn ymestyn o ogledd Affrica i dde a chanol Ewrop hyd at rhabarthau'r Baltig.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o weision neidr mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser i ffwrdd o ddŵr, ond mae'n dychwelyd ato i baru, yn enwedig at ddŵr araf ei lif. Mae ar ei adain rhwng Gorffennaf a diwedd Hydref. Yn aml, maent yn dod at ei gilydd, a gwelir cwmwl ohonynt yn hedfan ar adegau.

Nodweddion golygu

Ar ei adain, mae'n ymddangos yn eitha tywyll ei liw ac yn debyg i'r Ymerawdwr, gydag abdomen glas. Ond y gwas neidr tebycaf iddo yw A. affinis, yn enwedig pan maent yn hedfan wrth ei gilydd. Mae'n debyg i weddill y genws aeshna, oddigerth i siâp 'Tî golff' ar ail gylchran ei abdomen (sef S2).

Cyfeiriadau golygu

  • "Gomphus vulgatissimus". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 28 Mai 2011. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolennau allanol golygu