Ymerawdwr (gwas neidr)

gwas neidr
Ymerawdwr
Ymerawdwr, gwrywaidd. Gwarchodfa natur Glascoed Llanelwy.
Benyw mewn coedwig yn Rhydychen
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Aeshnidae
Genws: Anax
Rhywogaeth: A. imperator
Enw deuenwol
Anax imperator
Leach, 1815
Cyfystyron

Anax mauricianus
Anax mauritianus (lapsus)

Gwas neidr mawr o deulu'r Aeshnidae yw Ymerawdwr (enw gwrywaidd; llu. Ymerawdwyr; Lladin: Anax imperator; Saesneg: Emperor dragonfly) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae tiriogaeth yr A. mixta yn ymestyn o ogledd Affrica i dde a chanol Ewrop hyd at rhabarthau'r Baltig.

Dyma un o'r gweision neidr mwyaf: 78 millimetre (3.1 in).[2] Yn Ewrop, Affrica ac Asia mae i'w gael gan fwyaf. Gallant hedfan yn uchel, gan fwyta pryfaid fel gloynnod byw. Maen nhw hefyd yn bwyta penbyliaid. Maen nhw'n paru ac yn cyplu mewn cynefin gwlyb, pyllau dŵr neu lynnoedd, sydd â thyfiant ynddo. Mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau i mewn i'r planhigion hyn yn y dŵr. Mae'r gwryw yn cadw at ei filltir sgwâr.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Clausnitzer, V. (2006). "Anax imperator". Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. Version 2010.1. International Union for Conservation of Nature. Cyrchwyd 2010-06-10.CS1 maint: ref=harv (link)
  2. "Emperor". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 25 Awst 2010.
  3. "Emperor dragonfly videos, photos and facts — Anax imperator". ARKive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-09. Cyrchwyd 2013-08-08.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Dolennau allanol golygu