Melysfwyd sy'n boblogaidd yng Ngwledydd Prydain yn ystod tymor yr hydref yw afal taffi.[1] Dodir afal ffres ar wäell a'i drochi mewn surop siwgr berwi sydd wedi ei liwio'n goch. Gadewir i'r surop galedu ar groen yr afal. Gwerthir yn y ffair, ac erbyn heddiw caiff yr afal taffi ei lapio mewn seloffen i'w gadw'n lân.[2] Bwyteir yn aml i ddathlu Calan Gaeaf a Noson Guto Ffowc.

Afal taffi
Mathmelysion Edit this on Wikidata
Yn cynnwysafal Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Afal taffi

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [toffee: toffe-apple].
  2. Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 801.
  Eginyn erthygl sydd uchod am felysfwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.