Loggerheads

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Loggerheads ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (ni cheir enw Cymraeg swyddogol[1] ond enw hynafol yw Rhyd y Gyfarthfa).[2][3][4] Fe'i lleolir ger y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint, tua 4 milltir i'r gorllewin o'r Wyddgrug ger Gwernymynydd, wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd.

Loggerheads
We Three Loggerheads, A494 - DSC05440.JPG
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1543°N 3.2142°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ189626 Edit this on Wikidata
Cod postCH7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Llifa Afon Alun, un o lednentydd Afon Dyfrdwy, trwy Loggerheads. Dim ond ychydig o dai a thafarn sydd yno.

Yr arwydd uwchben Carreg Carn Arthur.

Nodir y ffin rhwng siroedd Dinbych a'r Fflint gan Garreg Carn Mawrth Arthur. Yn ôl y chwedl, gadawodd Mawrth y Brenin Arthur ôl ei garn arni pan neidiodd i lawr o ben Moel Famau. Saif y garreg ar ymyl y briffordd A494, wedi'i chysgodi dan fwa. Gosodwyd plac Saesneg yno yn esbonio ei harwyddocad yn 1763. Bu gan y dafarn leol arwydd ar un adeg yn dangos dau ddyn yn ysgyrnygu ar ei gilydd dan y geiriau "We Three Loggerheads": y gwyliwr oedd y trydydd "loggerhead".

Ceir Parc Gwledig Loggerheads ger y pentref.

CyfeiriadauGolygu