Caergwrle

pentref yn Sir y Fflint

Pentref yng nghymuned Yr Hôb, Sir y Fflint, Cymru, yw Caergwrle[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ).

Caergwrle
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1102°N 3.0406°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ303575 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJack Sargeant (Llafur)
AS/auMark Tami (Llafur)
Map

Daw'r enw o caer + yr enw lle coll *Corley' sydd yn golygu 'dôl y garan' mewn Hen Saesneg.[3] Mae hyn yn parhau yn yr yngangiad Saesneg o'r lle. Fe'i lleolir ar ffordd yr A541, tua 5-6 milltir i'r gogledd o Wrecsam, ac mae'n cyffwrdd â'r pentref agosaf, Abermorddu. Mae'n gorwedd wrth droed Mynydd yr Hob (sy'n fryn isel yn hytrach na mynydd go iawn).

Saif Caergwrle ar lannau Afon Alun. Gerllaw ceir adfeilion castell Cymreig a godwyd gan y tywysog Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf, ar dir a roddwyd iddo gan Edward I o Loegr ar ôl ei gyrch cyntaf ar Gymru yn 1277. Yn y pentref ceir pont ceffylau pynnau sy'n dyddio i'r 17g, y dywedir bod ysbryd yn aflonyddu yno; bu bron iddi gael ei dinistrio gan lifogydd yn 2000, ond mae wedi cael ei thrwsio ers hynny.

Mae gan Caergwrle gysylltiad cryf â phentref Yr Hob. Mae ganddo orsaf trenau ar Reilffordd y Gororau, sy'n ei gysylltu â Wrecsam a Lerpwl. Ceir bysus yn rhedeg i'r Wyddgrug a Chaer.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jack Sargeant (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Ionawr 2022
  3. Owen, Hywel Wyn; Lloyd, Ken Lloyd (2017). Place-Names of Flintshire. Cardiff: University of Wales Press. tt. 40–1. ISBN 1-78683-110-4. OCLC 966205096.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU