Afon Chari
Afon fawr yng nghanolbarth Affrica yw Afon Chari (weithiau: Afon Shari). Ei hyd yw 949 cilometr. Mae'n llifo o'i tharddle yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica trwy Tsiad i Llyn Tsiad, gan ddilyn y ffin rhwng Tsiad a Camerŵn o ddinas N'Djamena ymlaen, lle mae'n ymuno â dyfroedd Afon Logone.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ouaddaï Region |
Gwlad | Camerŵn, Tsiad, Gweriniaeth Canolbarth Affrica |
Uwch y môr | 282 metr |
Cyfesurynnau | 8.570158°N 19.056473°E, 12.9094°N 14.565°E |
Aber | Llyn Tsiad |
Llednentydd | Afon Ouham, Afon Logone, Bahr Salamat, Afon Bahr Aouk, Afon Bragoto |
Dalgylch | 650,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,400 cilometr |
Arllwysiad | 1,159 metr ciwbic yr eiliad |
Mae'r rhan helaeth o boblogaeth Tsiad, yn cynnwys Sarh a'r brifddinas N'Djamena, yn byw ar ei glannau. Mae'n cyfrannu 90% o'r dŵr sy'n llifo i Lyn Tsiad. Mae ei thalgylch yn cynnwys 548,747 km². Mae pysgota yn yr afon yn bwysig iawn i drigolion ei glannau.