Gweriniaeth Canolbarth Affrica
Gwlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Canolbarth Affrica (yn Ffrangeg: République Centrafricaine, yn Sango: Ködörösêse tî Bêafrîka). Y gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Cinsiasa) a Gweriniaeth y Congo (Brazzaville) i'r de, Swdan a De Swdan i'r dwyrain, Tsiad i'r gogledd, a Chamerŵr i'r gorllewin. Mae Gweriniaeth Canolbarth Affrica yn gorchuddio ardal o 620,000 cilometr sgwâr (240,000 milltir sgwâr), ac mae ganddo boblogaeth o tua 4.7 miliwn.
Arwyddair | Undon, Urddas a Gwaith |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad, gweriniaeth |
Prifddinas | Bangui |
Poblogaeth | 5,152,421 |
Sefydlwyd | |
Anthem | La Renaissance |
Pennaeth llywodraeth | Félix Moloua |
Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Bangui |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Sango |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica |
Gwlad | Gweriniaeth Canolbarth Affrica |
Arwynebedd | 622,984 km² |
Yn ffinio gyda | Tsiad, Swdan, Camerŵn, Gweriniaeth y Congo, De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Y Cynghrair Arabaidd |
Cyfesurynnau | 6.7°N 20.9°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | National Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of the Central African Republic |
Pennaeth y wladwriaeth | Faustin-Archange Touadéra |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prime Minister of the Central African Republic |
Pennaeth y Llywodraeth | Félix Moloua |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $2,516 million, $2,383 million |
Arian | Ffranc Canol Affrica (CFA) |
Canran y diwaith | 7 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.286 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.404 |
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Canolbarth Affrica yw Bangui.
Mae hi'n annibynnol ers y 13eg o Awst, 1960, pan cafodd y wlad ryddid wrth Ffrainc.
Arlywydd y wlad yw Faustin Touadera.
Demograffeg
golyguErs cael annibynniaeth wrth Ffrainc, mae poblogaeth y wlad wedi cynyddu pedwar gwaith. Cododd y boblogaeth o 1,232,000 yn 1960 i tua 4,666,368 erbyn heddiw.
Mae dros 80 o grŵpiau ethnig gwahanol yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica. Y grŵpiau ethnig mwyaf yw :
- Yr Arabiaid Baggara
- Y Baka
- Y Banda
- Y Bayaka
- Y Fula
- Y Gbaya
- Y Kara
- Y Kresh
- Y Mbaka
- Y Mandja
- Y Ngbandi
- Y Sara
- Y Vidiri
- Y Wodaabe
- Y Yakoma
- Y Yulu
- Y Zande
- Ffrancwyr (oherwydd y cyfnod dan reolaeth Ffrainc)
- A llawer o grŵpiau ethnig lleol eraill
Crefydd
golyguYn 2010, roedd 80.3% o'r boblogaeth yn Gristnogion (60.7% Protestanaidd, 28.5% Catholig), ac 8.9% yn Fwslemiaid.
Ieithoedd
golyguMae gan Gweriniaeth Canolbarth Affrica ddau iaith swyddogol - Ffrangeg a Sango. Iaith greole yw Sango sydd wedi'i ddatblygu i weithredu fel lingua franca i gysylltu'r holl grŵpiau ethnig yn y wlad. Mae e wedi'i selio ar iaith y Ngbandi. Gweriniaeth Canolbarth Affrica yw un o'r unig wledydd yn Affrica gyda iaith Affricanaidd fel iaith swyddogol.