N'Djamena
Prifddinas a dinas fwyaf Tsiad yw N'Djamena (Arabeg: نجامينا Nijāmīnā; hefyd Ndjamena), gyda phoblogaeth o 721,000 (2005). Mae'n borthladd ar lan Afon Chari, ger ei chymer ar Afon Logone, wedi ei lleoli yn ne-orllewin Tsiad yn union gyferbyn tref Kousséri, dros yr afon yn Camerŵn, a gysylltir â'r ddinas gan bont. Mae'n un o ranbarthau Tsiad hefyd, wedi ei ymrannu yn ddeg arrondissement. Mae'n farchnad ranbarthol ar gyfer da byw, halen, dêts, a grawnfwyd. Prosesu cig yw'r prif ddiwydiant.
Math | special statute region of Chad, dinas, tref ar y ffin, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 1,092,066 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Toulouse, Stupino, Istanbul |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sahelian Chad |
Sir | Tsiad |
Gwlad | Tsiad |
Arwynebedd | 100 km² |
Uwch y môr | 298 metr |
Gerllaw | Afon Chari |
Cyfesurynnau | 12.11°N 15.05°E |
TD-ND | |
Cyfeirir ati weithiau wrth ei hen enw Fort Lamy, sy'n tarddu o gyfnod reolaeth Ffrainc pan sefydlwyd y ddinas yn 1900. Mae gwrthryfelwyr wedi ymosod ar y ddinas ddwywaith yn ddiweddar, yn 2006 a 2008.