Afon Cleddau Ddu
Tardda Afon Cleddau Ddu (ffurf amgen: Cleddy Ddu) ar lethrau Mynydd Preselau ym Mlaencleddau ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a llifa tua'r de-orllewin heibio Llawhaden. Mae'n rhan o Afon Cleddau. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.841634°N 5.065214°W |
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol da; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.
Cadwraeth
golyguMae Afon Cleddau Ddu wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SSSI) ers 24 Mawrth 2003 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle. Mae ei arwynebedd yn 372.38 hectar. Gyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Dynodwyd y safle oherwydd agweddau biolegol er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd biolegol fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.