Pryf
Pryfed | |
---|---|
![]() | |
Gwenynen | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Is-ffylwm: | Hexapoda |
Dosbarth: | Linnaeus, 1758 |
Urddau | |
Is-ddosbarth Apterygota
Is-ddosbarth Pterygota
|
Anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd yn perthyn i'r dosbarth Insecta yw pryfed (neu drychfilod). Y pryfed yw'r dosbarth mwyaf yn y ffylwm Arthropoda ac yn cynnwys mwy nag 800,000 o rywogaethau - mwy nag unrhyw ddosbarth arall o anifeiliaid. Mae gan bryfed chwe choes. Gall fod hyd at dau bâr o adenydd ganddynt hefyd. Mae pryfed yn byw ymhob amgylchedd ar y ddaear, er mai dim ond ychydig o rywogaethau ohonynt sy'n byw yn y môr.
Rhestr pryfedGolygu
- Cacynen (Wasp: Apocrita)
- Cardwenynen (Carder bumble-bee: Bombus humilis a Shrill carder bee Bombus sylvarum)
- Ceiliog y rhedyn (Grashopper: Orthoptera)
- Coenagrion Benfro (Southern damselfly: Coenagrion mercuriale)
- Chwannen (Flea: Siphonaptera)
- Chwilen (Beetle, Coleoptera)
- Chwilen deigr (Tiger beetle: Cicindela germanica)
- Chwilen ddaear (Ground beetle: Lionychus quadrillium, Panagaeus crux-major a Perileptus areolatus)
- Chwilen ddu (Cockroach: Blattodea)
- Chwilen ddŵr (Water beetle: Bidessus minutissimus)
- Chwilen gorniog (Stag beetle: Lucanus cervus)
- Chwilen grwydr (Rove beetle: Meotica anglica)
- Glöyn byw (Butterfly: Papilionoidea)
- Gwas y neidr (Dragonfly: Odonata)
- Gwenynbryf smotiog (Dotted beefly: Bombylius discolor)
- Gwenynen (Bee: Apoidea)
- Gwiddonyn (Weevil: Curculionoidea)
- Gwyfyn: (Moth: Heterocera)
- Lleuen (Louse: Phthiraptera)
- Morgrugyn (Ant: Formicidae)
- Morgrugyn du'r gors (Black bog ant: Formica candida)
- Morgrugyn gwyn (Termite: Isoptera)
- Pryf (Fly)
- Pryf clust (Earwig: Dermaptera)
- Pryf lladd (Hornet robber fly: Asilus crabroniformis, Spiriverpa (Thereva) lunulata a Thinobius newberyi)
- Pryf pigfain (Stiletto fly: Cliorismia rustica)
- Pryf soldiwr (Soldier fly: Odontomyia hydroleon)
- Pryf tân (Firefly: Lampyridae)
- Pryf teiliwr (Cranefly: Tipulidae)
- Pryf y cerrig (Stonefly: Plecoptera)
- Saerwenynen (Mason bee: Osmia parietina a Osmia xanthomelana)
Enwau Cymraeg ar y trychfilodGolygu
Bu sawl ymdrech dros y blynyddoedd i gasglu ac i safoni enwau'r holl deuluoedd a rhywogaethau trychfilod, weithiau yn systematig fesul grwp, dro arall fesul rhywogaeth unigol mewn ymateb i geisiadau brys gan gyfieithwyr. Cynhwysa'r rhestrau a wnaed yn systematig grwpiau fel y gwyfynod, y glöynnod byw y gweision neidr a'r buchod cwta.
Gwnaethpwyd hefyd y gwaith casglu paratoadol ar gyfer grwpiau eraill megis y gwenyn a'u tebyg er mwyn bod mor driw a phosib i'r termau llafar sydd ar gael pan yn eu safoni. Dyma un enghraifft o'r gwaith paratoadol hwn gan Twm Elias ac O.T. Jones[1]
- Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, 1981, cynhaliwyd arbrawf gan aelodau o'r Gymdeithas i geisio gweld pa enw a ddefnyddir ar bedair rhywogaeth adnabyddus o drychfilod yng ngwahanol ardaloedd Cymru. Dewiswyd y wenynen (‘’Apis mellifera’’; S. ‘’Honey Bee’’), y cacwn (rhu. ‘’Bombus’’; ‘’S. Bumble Bee’’), Gwenyn Meirch (rhu. ‘’Vespula’’; S. ‘’wasp’’) a Robin y Gyrrwr (Teuluoedd ‘’Oestridae’’ a ‘’Gasterophilidae’’; S. ‘’Warble Fly’’ neu ‘’Gad Fly’’, ‘’Horse Bot Fly’’) fel rhywogaethau i’w hastudio.
- Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, 1981, cynhaliwyd arbrawf gan aelodau o'r Gymdeithas i geisio gweld pa enw a ddefnyddir ar bedair rhywogaeth adnabyddus o drychfilod yng ngwahanol ardaloedd Cymru. Dewiswyd y wenynen (‘’Apis mellifera’’; S. ‘’Honey Bee’’), y cacwn (rhu. ‘’Bombus’’; ‘’S. Bumble Bee’’), Gwenyn Meirch (rhu. ‘’Vespula’’; S. ‘’wasp’’) a Robin y Gyrrwr (Teuluoedd ‘’Oestridae’’ a ‘’Gasterophilidae’’; S. ‘’Warble Fly’’ neu ‘’Gad Fly’’, ‘’Horse Bot Fly’’) fel rhywogaethau i’w hastudio.
- Ym mhabell Gwasg Dwyfor y cynhaliwyd yr arbrawf. Yno gosodwyd lluniau ardderchog Ann Garrod o'r bedair rhywogaeth gydag enghreifftiau o bob un wedi ei binio allan; hefyd map o Gymru ar gyfer bob un. Gwahoddwyd ymwelwyr i'r babell i roddi eu henwau arbennig hwy ar y pedair rhywogaeth ac i leoli symbol a gyfatebai i'r enwau hynny ar eu broydd genedigol ar y mapiau. Fe welir y canlyniadau a gafwyd ar y mapiau.
- a) Gwenynen (ll. gwenyn)
- Mae'n amlwg mai dyma'r enw a ddefnyddir drwy Gymru gyfan. Defnyddir hefyd 'Gwenynen Fêl', 'Gwenynen ddu Gymreig' a 'Gwenynen Ddof gan wenynwyr
- (b) Cacynen (ll. cacwn)
- Drwy’r gogledd yn gyffredinol, y gair a ddefnyddir yw 'cacwn' ac fe'i ceir rnewn rhannau o'r de hefyd, sef gogledd Penfro a dyffryn Teifi. Ond fe geir amrywiaethau diddorol yma yn ogystal, sef 'cachgi bwm' neu ‘caci bwm' yn nyffryn Tywi ac yng Ngheredigion, tra bod 'picynen fawr' a 'bili bomen' i'w cael yn amlach yng Nghwm Tawe, Cawsom hefyd yr amrywiaethau canlynol ond yn aml heb enghraifft o'r fath gan berson arall 'cacynen fawr' (Dinas Mawddwy: 'cacwn mwnci, (Sir Fôn), ‘cacwn meirch' (Bethesda), 'bwmsen' (Llanddarog), 'bombi' (Pontiets) a ‘bombili' (Brynaman).
- c) Gwenynen Feirch (ll. Gwenyn Meirch)
- Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, ceir dosbarthiad diddorol lawn i'r enw yma o ogledd-orllewin Cymru (Môn, Arfon a rhan o Feirion) ar hyd yr arfordir i lawr i ddyffryn Teifi a gogledd Sir Benfro. 'cacwn' a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o Glwyd ac hefyd i lawr i Ddyfi hyd at y môr. Yng nghanolbarth Ceredigion ceir yr enw 'piffci' (ll. piffcwn) ac yno'n unig hyd y gwelwn ni y gair mwyaf cyffredin am y trychfilyn yma yn Sir Gaerfyrddin a dwyrain Morgannwg yw 'picwnen' (ll. picwn). Ceir hefyd ‘picacwnen' yn Llanelli a Burry Port a ‘picagwnen’ yn Ystalyfera a Llangyfelach. Yn y gogledd fe gawsom hefyd amrywiaethau ar y gair 'cacwn' - 'cacwn brith ( rhwng dyffrynnoedd Clwyd a Chonwy), 'cacwn meirch, (Tremadog a Phenygroes), 'cacwn geifr' (neu ar lafar 'Cacwn Gifir') (Dolgellau, Ganllwyd, Brithdir, Rhydymain, Y Bala ac Aberhosan.ym Maldwyn), 'cacwn bach' (Llanfyllin a Dyffryn Tanat) a ‘Cacwn y Cythraul' (Penuwch yng Ngheredigion).
- c) Gwenynen Feirch (ll. Gwenyn Meirch)
- (ch) Robin y Gyrrwr
- Mae amryw o rywogaethau a elwlr yn 'Robin y Gyrrwr' neu ei amrywiaethau. Eu nodwedd bwysicaf yw eu bod oll yn gwneud swn uchel tra’n hedfan ac yn achosi i wartheg a cheffylau i ddychryn a rhedeg - 'ystodi' yw'r enw a roddir ar yr ymateb hwn yn Sir Fôn. Trwy ogledd Cymru ac ar arfordir gogledd Penfro y gair a ddefnyddir yw 'Robin y Gyrrwr'. Ym Mhont Senni a Threcastell yn Sir Frycheiniog ceir yr enw 'Robin Dreifar’. Yn Sir Gaerfyrddin y gair 'Robin' yn unig a ddefnyddir tra yng Nghwm Tawe fe galedir y ‘b' yn y gair i 'ropin’. Y gair traddodiadol am gynrhon 'robin y gyrrwr' a geir yn magu o dan groen cefn gwartheg yw 'gweryd’, ac fe geisiwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan y Weinyddiaeth Amaeth ac eraill, i gael pobol i ddefnyddio ‘pryfed gweryd’ am y pryfed aeddfed a ddatblyga o'r cynrhon sy'n magu mewn gwartheg. Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, mae'r enw yma yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau o'r gogledd.
- Mewn hen lyfrau o'r ganrif ddiwethaf ceir enwau fel 'cacwn y cwn’ neu ‘cacwn y meirch’, a 'chacwn yr ych' am robin y gyrrwr ond ni chafwyd ond un neu ddau o enghreifftiau o'r gair 'cacwn' yn y cyd-destun yma. Fe allem ddamcaniaethu mai yn y gorffennol 'cacwn yr ych’, 'cacwn geifr’ a 'chacwn y meirch' a ddefnyddid am y rhywogaethau hynny a ymosodai ar wartheg, geifr a cheffylau ond bod 'robin y gyrrwr' yn cael el arfer yn ddiweddarach am yr holl rywogaethau. Efallai fod cysylltiad hefyd rhwng yr enwau hyn a'r defnydd o 'wenyn meirch' yng Ngwynedd, yr enw hwn wedi ei drosglwyddo bellach, fodd bynnag, i gyfateb a'r Saesneg ‘’wasp'’.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Dosbarthiad Enwau Trychfilod yn ôl arbrawf Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cylch 1981 (Adroddiad gan Twm Elias ac O. T. Jones).