Afon Clywedog (Dyfrdwy)
Afon yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n llifo i mewn i'r Afon Dyfrdwy yw Afon Clywedog.
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0197°N 2.8825°W ![]() |
Aber | Afon Dyfrdwy ![]() |
Llednentydd | Afon Gwenfro ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c4/Afon_Clywedog_in_Erddig_Park_-_geograph.org.uk_-_51774.jpg/250px-Afon_Clywedog_in_Erddig_Park_-_geograph.org.uk_-_51774.jpg)
Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau i'r gorllewin o bentref Y Mwynglawdd. Ar ôl llifo trwy'r Mwynglawdd, mae'n troi tua'r de-ddwyrain, heibio i Goedpoeth, Y Bers, a Rhostyllen, a thrwy Barc Gwledig Erddig, wedyn yn llifo tua'r dwyrain ychydig i'r de o Wrecsam. Mae llwybr cerdded ar hyd lan yr afon yr holl ffordd o'r Mwynglawdd i Wrecsam. Wedi mynd heibio Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, mae Afon Clywedog yn ymuno ag Afon Dyfrdwy yn agos i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.