Afon Gwenfro

afon yng Nghymru

Afon ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Afon Gwenfro.

Afon Gwenfro
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0356°N 2.9747°W Edit this on Wikidata
AberAfon Clywedog (Dyfrdwy) Edit this on Wikidata
Map

Cwrs yr afon golygu

Mae'n tarddu o nifer o ffynhonnau bychain i'r de ac i'r dwyrain o bentref Bwlchgwyn, gan gynnwys lle o'r enw Ffynnon y Ceirw. Mae'n llifo tua'r dwyrain am rai milltiroedd trwy ddyffryn dwfn, ac yn ymuno â nifer o nentydd eraill ar ei ffordd. Llifa i'r gogledd o bentref Coedpoeth, i'r de o bentref Tanyfron, trwy ganol pentref Glanrafon ac i'r gorllewin o Frychdyn. Yna mae'n mynd trwy ganol tref Wrecsam, yn bennaf o dan y ddaear, ac ac yn aberu i Afon Clywedog ger King's Mills, ychydig i'r de o'r dref.

Hanes yr afon yn ardal drefol golygu

Yn 1881, cafodd ceuffos ei chreu ar gyfer yr afon, a oedd yn llifo o hynny ymlaen o dan Brook Street yng nghanol y dref.[1] Mae pont dros yr afon, sef Willow Bridge, yn dal i sefyll yng nghanol Wrecsam, ar y groesffordd rhwng Ffordd Salop a Rhodfa San Silyn. Codwyd y bont yn 1877 gan Peter Walker, perchennog Bragdy Willow.[2] Gwelir yr afon ar lefel y stryd ar hyd Rhodfa San Silyn o bont Willow tuag at y gyffordd gyda Allt y Dref a Stryt y Bont, lle mae hi'n dal i lifo o dan Eglwys San Silyn.

Ansawdd dŵr golygu

Roedd Afon Gwenfro yn ffynhonnell bwysig o ddŵr i ddiwydiant Wrecsam ac mae wedi dioddef o broblemau llygredd yn y gorffennol. Er bod effeithiau hynny i'w gweld o hyd heddiw, fel y gwelir o'r ddirwy gan Dŵr Cymru yn 2006, mae pysgod megis brithyllod a rhufelliaid wedi dechrau dychwelyd i'r afon.[3]

Lluniau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Yorke Fountain - Wrexham History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-21. Cyrchwyd 24 May 2022.
  2. "The story of the Willow Brewery - Wrexham History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-26. Cyrchwyd 26 May 2022.
  3. "Llygredd: Dirwy i Ddwr Cymru", BBC Cymru Newyddion, 28 Gorffennaf 2007; adalwyd 24 Mai 2021