Afon Clywedog (Hafren)

afon ym Mhowys

Afon ym Mhowys yw Afon Clywedog. Mae'n tarddu ar ucheldiroedd rhan ogleddol Pumlumon, lle mae Nant Ddu a Nant Goch yn ymuno a'i gilydd. Llifa tua'r dwyrain a heibio pentref Penffordd-las, lle mae'n troi tua'r de i lifo i mewn i gronfa ddŵr Llyn Clywedog. Crëwyd y gronfa yma trwy adeiladu argae, yr uchaf ym Mhrydain, ar draws yr afon.

Afon Clywedog
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr260 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5°N 3.5°W Edit this on Wikidata
AberAfon Hafren Edit this on Wikidata
Map
Afon Clywedog yn yr hydref

Wedi gadael y llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain i ymuno ag Afon Hafren ger tref Llanidloes.