Cronfa ddŵr ym Mhowys yw Llyn Clywedog. Saif ar Afon Clywedog, afon sy'n llifo i mewn i Afon Hafren, ychydig i'r gogledd-orllewin o dref Llanidloes.

Llyn Clywedog
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrefeglwys, Llanidloes Allanol Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4861°N 3.625°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganSevern Trent Edit this on Wikidata
Map
Erthygl ar y gronfa ddŵr ym Mhowys yw hon; ceir cronfa o'r un enw yn Sir Ddinbych.

Crewyd y llyn trwy adeiladu argae ar draws afon Clywedog; mae'r argae yma yn 72 medr o uchder a 230 medr o hyd. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1963, gyda'r bwriad o reoli llif afon Hafren, i osgoi llifogydd yn y gaeaf ac i gadw'r llif rhag mynd yn rhy isel yn yr haf.

Bu cryn dipyn o wrthwynebiad i'r cynllun, gan ei fod yn golygu boddi rhan helaeth o Ddyffryn Clywedog. Yn 1966, bu deufis o oedi o ganlyniad i ffrwydrad bom; credir mai'r mudiad Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC) oedd tu ôl iddo. Agorwyd y gronfa yn 1967.

Cyfeiriadau golygu