Afon Colorado (Ariannin)
Afon yn rhan ddeheuol yr Ariannin yw Afon Colorado (Sbaeneg: Río Colorado). Ystyrir fod yr afon yma yn ffurfio ffîn ogleddol Patagonia.
Math | afon, cwrs dŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | yr Ariannin |
Cyfesurynnau | 36.8722°S 69.76°W, 39.69°S 62.094°W, 39.6972°S 62.0944°W |
Tarddiad | Afon Barrancas |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Afon Desaguadero, Afon Grande, Afon Barrancas |
Dalgylch | 350,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,200 cilometr |
Arllwysiad | 140 metr ciwbic yr eiliad |
Ceir tarddle'r afon yn yr Andes, lle gelwir hi y río Barrancas. Mae y Río Grande yn ymuno â hi i ffurfio'r Colorado, ac mae'n llifo tua'r de-ddwyrain i gyrraedd Cefnfor Iwerydd. Hyd 1914 roedd y Colorado yn tarddu o lyn mawr oedd wedi ei ffurfio gan rewlif, ac a elwid gan y Mapuche wrth yr enw Cari Lauquen, ond yn y flwyddyn honno torrodd y morraine oedd yn cadw'r dŵr i mewn o ganlyniad i ddaeargrynfeydd, a diflannodd y llyn.
Wedi gadael yr Andes mae'r afon yn ffurfio dyffryn cul. Ffurfia'r afon y ffîn rhwng taleithiau Mendoza a Neuquén ac yna rhwng taleithiau La Pampa a Río Negro. Mae wedyn yn llifo trwy ran ddeheuol Talaith Buenos Aires i gyrraedd y môr; ystyrir y darn bychan o'r dalaith honno sydd i'r de o'r afon yn rhan o Batagonia.