Afon ym mwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru, yw Afon Crafnant. Am fod y ffrwd fechan Afon Geirionydd, sy'n llifo o Llyn Geirionydd, yn ymuno â hi uwchlaw Trefriw fe'i gelwir yn Afon Geirionydd weithiau hefyd yn lleol ar ei chwrs isaf.

Afon Crafnant
Afon Crafnant yn Nhrefriw
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1325°N 3.87°W Edit this on Wikidata
AberAfon Conwy Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Geirionydd Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu ym mhen uchaf Cwm Crafnant, yng ngesail y Creigiau Gleision, ar ochr ddwyreiniol y Carneddau yn Eryri. Mae hi'n llifo i mewn i Lyn Crafnant. O Lyn Crafnant llifa'r afon i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i ddisgyn yn syrth trwy geunant goediog i Drefriw yn Nyffryn Conwy lle ceir pont drosti sy'n dwyn lôn y B5106 rhwng Conwy a Betws-y-Coed. Hanner milltir i'r gogledd o Drefriw mae hi'n ymuno ag Afon Conwy.

Defnyddir llif yr afon i greu trydan i redeg melin wlân Trefriw.

Cymerodd y bardd Ieuan Glan Geirionydd o enw'r afon, sy'n llifo heibio i'w hen gartref yn Nhrefriw.