Llyn yn sir Conwy yw Llyn Geirionydd (weithiau Llyn Geirionnydd). Saif ar ochr ogleddol Coed Gwydyr. Mae bron filltir o hyd, gydag arwynebedd o 45 acer a dyfnder o tua 50 troedfedd yn y man dyfnaf. Llifa Afon Geirionydd o'r llyn i ymuno ag Afon Crafnant.

Llyn Geirionydd
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1314°N 3.8492°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganMelin Wlân Trefriw Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd o Drefriw heibio pentref Llanrhychwyn, neu o dref Llanrwst. Gellir cerdded o ardal Llyn Crafnant dros Fynydd Deulyn. Ceir maes parcio ger y llyn, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Ychydig o bysgod sydd yn y llyn; credir fod llygredd o'r cloddfeydd metel yn y cyffiniau yn parhau.

Llyn Geirionydd yw'r unig lyn yn Eryri lle caniateir cychod modur a sgïo dŵr; mae rhai grwpiau yn ymgyrchu dros gael gwahardd y gweithgareddau yma ar y llyn, gan ddadlau eu bod yn tarfu ar yr heddwch.

Cysylltiadau llenyddol golygu

Ceir traddodiad poblogaidd yng Nghymru sy'n cysylltu'r bardd o'r 6g, Taliesin a Llyn Geirionydd, ond mae'n draddodiad cymharol ddiweddar a dyfodd o gamddarllen llinell yn y gerdd "Anrheg Urien",

Mineu Dalyessin o iawn llyn gerionnyd

a ddehonglwyd fel 'Minnau, Taliesin, o lan Llyn Geirionnydd'. Ond dangosodd Ifor Williams mai iawn-llin ("gwir linach") yw'r darlleniad (mae geirionyd yn hen ffurf ar ceraint).[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Jonah Jones, The Lakes of North Wales (Whittet Books, 1987)
  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; argraffiad newydd 1977)