Trefriw
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Trefriw.[1][2] Fe'i leolir ar lan orllewinol Afon Conwy. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 1338, gyda union 50% yn siarad Cymraeg; ond erbyn 2011 roedd y ganran wedi gostwng 5% i 44.8%.
Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 783 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,689.58 ha |
Cyfesurynnau | 53.152°N 3.825°W |
Cod OS | SH779632 |
Cod post | LL27 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Saif Trefriw tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin o dref Llanrwst a thua 4 milltir i'r de o bentref Dolgarrog. Yn y pentref mae Afon Crafnant yn ymuno ag Afon Conwy ar ôl llifo i lawr o Lyn Crafnant. Rhed ffin Parc Cenedlaethol Eryri trwy'r pentref, gyda'r rhan fwyaf ohono yn y parc. Heblaw bod yn rhywfaint o ganolfan wyliau, mae Trefriw yn adnabyddus am y felin wlân a'r sba, oedd yn cael ei defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig ac a ddaeth yn adnabyddus yn y 18g.
Hanes
golyguTua 6 milltir i'r gogledd o Drefriw ceir caer Rufeinig Canovium (Caerhun). Rhedai'r ffordd Rufeinig Sarn Helen trwy Trefriw, er nad oes olion ohoni i'w gweld yn yr ardal yma.
Dywedir fod gan Llywelyn Fawr lety hela yma yn y 13g; yn ôl John Leland roedd yn sefyll yn 1536, ond does dim i'w weld ohono rwan. Mae lle ar bwys y pentref a elwir 'Y Neuadd' ac yn ôl traddodiad lleol ar y llecyn hwnnw y safai llys Llywelyn. Mae traddodiad iddo adeiladu eglwys wreiddiol Trefriw oherwydd bod ei wraig Siwan yn blino cerdded i eglwys Llanrhychwyn. Maerdref cwmwd Nant Conwy, Cantref Arllechwedd, oedd Trefriw yr adeg hynny.
Yn y 19g roedd llongau gweddol o faint yn medru hwylio i fyny Afon Conwy cyn belled â Threfriw, lle'r oedd cei. Gyrrid nwyddau i lawr yr afon a byddai stemar yn cludo twristaid i'r pentref, ond daeth hyn i ben ddiwedd y 1930au.
Eglwys y Santes Fair
golyguCyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Enwogion
golygu- Thomas Wiliems (1545 neu 1546 - 1622?), a ysgrifennodd eiriadur Lladin/Cymraeg; efallai a chysylltiad â Chynllun y Powdwr Gwn yn Llundain.
- Dafydd Jones o Drefriw (g. 1703), argraffydd arloesol, bardd a hynafiaethydd.
- John Jones (Pyll) (1786-1865), argraffydd, cyhoeddwr a bardd; wŷr Dafydd Jones o Drefriw
- Robert Jones (argraffwr) (1803–850), wŷr Dafydd Jones o Drefriw a brawd John Jones (Pyll)
- Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) ganed yn Nhrefriw yn 1795, bardd ac emynydd.
- William John Roberts (Gwilym Cowlyd), (1828-1904) Trefnodd "Arwest Glan Geirionydd" ar lan Llyn Geirionydd am ei fod yn teimlo fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhy Seisnigaidd.
- Mary Owen (1803 - 1911). Ganed yn Nhrefriw, symudodd i Fron Olew, Mynydd Llwydiarth, Pentraeth a bu fyw i fod yn 108. Erbyn Mai 1911 hi oedd y person hynaf ym Mhrydain.
- William Jones (1896-1961), bardd, awdur Adar Rhiannon a Cherddi Eraill (1947) a Sonedau a Thelynegion (1950). Ganed yn Nhrefriw, bu fyw yn Nhremadog yn bennaf.
- Pierino Algieri, ffotograffydd. Ganed yma yn 1955.
Llyfryddiaeth
golygu- Morris Jones, Hanes Trefriw: fel y bu ac fel y mae, disgrifiad cryno o'r ardal a'r trigolion (W. J. Roberts, 1879)
- E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dolenni allanol
golygu- Safle we'r pentref
- Lluniau o Drefriw Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan