Afon Crai
afon yng Nghymru
Afon ym Mhowys sy'n llifo i mewn i afon Wysg yw Afon Crai.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9481°N 3.6008°W |
Ceir tarddle'r afon yn ardal y Fforest Fawr ym Mlaen-crai ger Bwlch Bryn-rhudd. Mae'n llifo tua'r gogledd am tua 2 km i gyrraedd Cronfa Crai. Wedi gadael y llyn, mae'n llifo trwy bentref gwasgaredig Crai ac yn parhau tua'r gogledd ar hyd ardal wledig Cwm Crai am 8 km arall. Mae'n ymuno ag afon Wysg rhwng Pontsenni a Threcastell.
Fel afon Wysg ac afonydd eraill sy'n llifo iddi, dynodwyd afon Crai fel Ardal Gadwraeth Arbennig.