Pontsenni

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref yng nghymuned Maescar, Powys, Cymru, yw Pontsenni[1] neu Pont Senni (Saesneg: Sennybridge).[2] Saif yn ardal Brycheiniog, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar y draffordd A40 tua hanner ffordd rhwng Aberhonddu i'r dwyrain a Llanymddyfri i'r gorllewin.

Pontsenni
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaescar Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.947007°N 3.567017°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN9228 Edit this on Wikidata
Cod postLD3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Enwir Pontsenni ar ôl y bont ar Afon Senni, ffrwd sy'n llifo i lawr o fryniau'r Fforest Fawr i'r de, ac yn ymuno ag Afon Wysg ym Mhontsenni. I'r gogledd o'r pentref cyfyd Mynydd Epynt. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Defynnog i'r de, Trecastell i'r gorllewin, a Phentre'r-felin i'r gogledd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Pobl o Bontsenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 8 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.