Cronfa Crai
Cronfa ddŵr ym Mhowys, yn ardal y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yw Cronfa Crai, weithiau Llyn Crai (Saesneg: Cray Reservoir). Saif y gronfa ychydig i'r gorllewin o bentref Crai (Cyf OS: SN883220). Mae'n cyflenwi dŵr i adral Abertawe.
Y llyn yn ystod Mehefin 2009 | |
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8806°N 3.625°W |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Ffurfiwyd y gronfa trwy adeiladu argae 28 medr o uchder ar draws dyffryn Afon Crai rhwng 1898 a 1906. Mae arwynebedd y gronfa tua 110 ac mae'n dal tua 4.5 miliwn tunnell o ddŵr.
Yn yr ardal yma y cafwyd hyd i Garreg Llywel, maen tua 2 m o uchder gydag arysgrif yn Lladin ac Ogam sy'n awr yn yr Amgueddfa Brydeinig.