Afon Desach
Afon yn ardal Arfon, Gwynedd, Cymru, w Afon Desach. Mae'n llifo o'r bryniau ger Bwlch Derwin i gyrraedd y môr yn Aberdesach. Ei hyd yw tua 5 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cwrs
golyguMae Afon Desach yn tarddu yn y bryniau i'r de-orllewin o Fwlch Derwin, ger safle Brwydr Bryn Derwin (1255), tua 3 milltir i'r gogledd-orlelwin o Garndolbenmaen. Mae sawl ffrwd mynyddig yn ymuno mewn corsdir i'r gogledd o Fwlch Derwin. Mae'r afon yn llifo o'r gors i gyfeiriad y gogledd-orllewin rhwng y Foel a Bwlch Mawr. Mae'n llifo dan bont ar y briffordd A499 ac yn aberu ym Mae Caernarfon fymryn i'r gogledd o bentref gwyliau glan môr Aberdesach.[1]
Etymoleg
golyguCredir fod yr enw 'Desach' o darddiad Gwyddeleg ac yn ffurf ar Déissech, sef "yn perthyn i'r Déisi." Llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Déisi. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer. Ymddengys felly fod yr enwau lleoedd hynafol hyn yn profi bod y Déisi wedi ymsefydlu am gyfnod yn y rhan yma o Wynedd, er mai gyda Dyfed y maent yn cael eu cysylltu'n bennaf yng Nghymru.[2]