Aberdesach

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd yw Aberdesach ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Cyfeirnod OS: SH 42682 51369. Saif ar ffordd yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Pontllyfni a Chlynnog Fawr. Mae Afon Desach yn tarddu gerllaw Bwlch Derwin uwchben y pentref ac yn cyrraedd y môr ger rhan ogleddol y pentref. Ystyrir y pentref yn rhan o Ddyffryn Nantlle.

Aberdesach
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0369°N 4.3486°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH425514 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Etymoleg

golygu

Credir fod yr enw 'Desach' a geir yn enwau'r afon a'r pentref o darddiad Gwyddeleg ac yn ffurf ar Déissech, sef "yn perthyn i'r Déisi." Llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Déisi. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer. Ymddengys felly fod yr enwau lleoedd hynafol hyn yn profi bod y Déisi wedi ymsefydlu am gyfnod yn y rhan yma o Wynedd, er mai gyda Dyfed y maent yn cael eu cysylltu'n bennaf yng Nghymru.[1]

Hanes a thraddodiad

golygu
 
Tai haf ar draeth Aberdesach

Gellir gweld nifer o ffermdai mawr yn yr ardal sy'n tystio i ddylanwad Stâd Glynllifon yn yr ardal hon. Cysylltir "Penarth" gerllaw Aberdesach â "Pennardd" ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Cysylltiad arall â'r chwedl hon yw Maen Dylan gerllaw Trwyn Maen Dylan, rhwng Aberdesach a Phontllyfni.

Mae adeiladau'r pentref ei hun yn weddol ddiweddar, a nifer ohonynt yn dai haf.

Mae traeth bychan a maes parcio yn Aberdesach, sydd hefyd o ddiddordeb adaryddol fel y lle gorau yng Nghymru i weld y Trochydd mawr yn y gaeaf, yn ôl y sôn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. R. J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938), tud. 13.

Dolenni allanol

golygu