Afon Detroit
Mae Afon Detroit (Ffrangeg Rivière du Détroit; Saesneg: Detroit River) tua 32 milltir (51 km) o hyd a rhwng 0.5 i 2.5 milltir (1–4 km) o led yn system y Llynnoedd Mawr, Gogledd America. Daw'r enw o'r Ffrangeg Rivière du Détroit, "afon y culfor". Mae'r enw'n cyfeiro ar y ffaith ei bod yn cysylltu Llyn Sant Clair gyda Llyn Erie. Er hynny, nid yw yn wirioneddol yn gulfor. Mae'r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada yn croesi ar hyd yr afon. Saif yr afon 579 troedfedd (175 medr) uwch lefel y môr.
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ontario, Wayne County ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Uwch y môr | 172 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 42.35476°N 82.926304°W, 42.041155°N 83.149647°W ![]() |
Tarddiad | Llyn St. Clair ![]() |
Aber | Afon St Lawrence ![]() |
Llednentydd | Afon Rouge, Afon Ecorse, Canard River, Turkey Creek, Little River ![]() |
Dalgylch | 1,811 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 45 ±1 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 5.324 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd | Llyn St. Clair, Llyn Erie ![]() |
![]() | |

Llyn Sant Clair (canol), ac Afon St. Clair yn ei chysylltu a Llyn Huron (i'r gogledd) ac Afon Detroit yn ei chysylltu i Lyn Erie (i'r de)