Afon Eidda

afon ger Padog

Afon fechan yn Sir Conwy yw Afon Eidda, sy'n un o lednentydd chwith Afon Conwy. Mae'n llifo yn ne'r sir ger Pentrefoelas. Hyd: tua 3.5 milltir.

Afon Eidda
Afon Eidda ger Blaen Eidda Isaf
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.028216°N 3.750853°W Edit this on Wikidata
Hyd3.5 milltir Edit this on Wikidata
Map

Tardda'r afon yn ardal Eidda, ar lethrau bryn Foel Ddu (504m). Gorwedd y tarddle yn y corsdir uchel (tua 470 metr i fyny) ar lethrau agored y Foel Ddu tua 2.5 milltir i'r de-orllewin o bentref Ysbyty Ifan. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y gogledd drwy gorsdir Blaen Eidda. Ger ffermdy Blaen Eidda Isaf mae ffrwd arall, Afon Rhydyrhalen, yn ymuno â hi. Mae'n disgyn oddi yno i lawr y cwm mynyddig gan fynd dan Bont Eidda ar lôn wledig sy'n cysylltu Ysbyty Ifan a'r A5, gam lifo i Afon Conwy tua hanner milltir ar ôl hynny ger Padog (sy'n adnabyddus i deithwyr oherwydd "troeon Padog" ar yr A5) tua 2 filltir i lawr o Bentrefoelas.[1]

Cadwraeth

golygu

Mae Meysydd Eidda ar lan yr afon wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae ei arwynebedd yn 4.44 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Map Arolwg Ordnans 1:50,000, taflen 116.