Pentrefoelas

pentref a chymuned ym Mwrdeisdref Sirol Conwy

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Pentrefoelas.[1][2] Saif yn ne-ddwyrain y sir ar gyffordd yr A5 a'r B5113, 7 milltir i'r de-ddwyrain o Lanrwst a hanner ffordd rhwng Cerrig-y-drudion a Betws-y-Coed. Mae'n gorwedd yn ardal Uwch Aled a bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych gynt. Yr enw gwreiddiol ar y lle oedd Pentre Fidwn.

Pentrefoelas
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth356 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,381.61 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.049°N 3.68°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000136 Edit this on Wikidata
Cod OSSH872514 Edit this on Wikidata
Cod postLL24 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Hanes golygu

Mae'r maen arysgrifiedig cynnar (gweler isod) a ddarganfuwyd wrth adeiladu'r A5 yn profi fod Pentrefoelas yn drigfan yn yr Oesoedd Canol cynnar. Plas Foel Las, i'r gogledd o'r pentref, oedd plas teuluol y Wynniaid.

 
Y garreg ganoloesol a ddarganfuwyd ger Pentrefoelas

Mae'r eglwys (dienw) yn bur gynnar ond cafodd ei hadnewyddu'n sylweddol yn y 19g. Ar ei muriau gwelir cofeb i John Griffith (m. 1794) o Gefn Amwlch, a honnai fod yn un o ddigynyddion Rhys ap Tewdwr, Tywysog Deheubarth. Ond diddordeb pennaf yr eglwys yw'r beddfaen ag arno arysgrifen Ladin, sy'n dyddio o'r 5g neu'r 6g.

Ger Pentrefoelas, darganfuwyd carreg gydag arysgrif Lladin arni sy'n diolch am rodd gan y tywysog Llywelyn Fawr i Abaty Aberconwy. Ar y garreg ceir y geiriau Lladin Cymreig hyn:

Ed vidh LN DI env aLevone Fortitudine Brachii mesure Leveline princeps Northvallie
"Daw'r enw 'Llewelin' o 'llew' ac o nerth 'elin', O Llywelyn, tywysog Gogledd Cymru!"
 
Canol Pentrefoelas
 
Pentrefoelas

Daearyddiaeth golygu

Llifa Afon Merddwr i lawr y dyffryn ger y pentref gan lifo dan bont ar y B5113 ac ymuno ag Afon Conwy tua milltir yn is i lawr o Bentrefoelas.

Ychydig yn uwch i fyny'r dyffryn o Bentrefoelas ceir Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a adnabyddir fel Corsydd Nug a Merddwr.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pentrefoelas (pob oed) (356)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pentrefoelas) (241)
  
69.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pentrefoelas) (258)
  
72.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pentrefoelas) (38)
  
27.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Bentrefoelas golygu

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.