Afon Gyrrach
Afon fach yn Sir Conwy yw Afon Gyrrach. Mae'n rhedeg o lethrau Tal-y-Fan i'r môr ger twnnel Penmaen-bach.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Er mai dim ond rhyw 5 milltir yw ei hyd mae cwrs yr afon yn amrywiol iawn. Mae ei tharddle tua 1700 troedfedd i fyny ar lethrau gogleddol mynydd Tal-y-Fan, y cyntaf o gopaon y Carneddau o gyfeiriad y dwyrain. Anodd dweud pa un o'r ffynonellau bychain ger Bwlch Defaid yw ei gwir darddle.
Mae hi'n rhedeg ar gwrs tua'r gogledd-ddwyrain o Fwlch Defaid, trwy gorsdir gwlyb iawn lle gwelir merlod mynydd haf a gaeaf, ac yna heibio i hen gronfa dŵr a adeiladwyd gan Cyngor Penmaenmawr tua dechrau'r 20g. Mae hi'n pasio dan bont fach i gerddwyr ger Waun Gyrrach ar ôl i nifer o ffrydiau llai ymuno â hi ac yna'n disgyn yn gyflym trwy Nant Ddaear y Llwynog (neu'r Fairy Glen yn Saesneg) goediog i Gapelulo wrth droed Bwlch Sychnant.
Ar ôl rhedeg dan bont ar y lôn mae hi'n mynd i lawr trwy'r Glyn, yn troi i'r gogledd i redeg heibio i lethrau isaf Yr Alltwen, ac yn pasio trwy ochr ddwyreiniol pentref Dwygyfylchi. O'r diwedd mae hi'n llifo dan yr A55 a'r rheilffordd i ddod allan ar draeth o gerrig mân ger Penmaen-bach ac ymuno â Bae Conwy a'r Môr Iwerydd ar ddiwedd ei thaith.