A55
Mae'r briffordd A55 yn ffordd ddeuol yng Ngogledd Cymru, sy'n cysylltu dinas Caer, Lloegr a thref Caergybi, Môn.
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.7°W |
Hyd | 87 milltir |
Hanes
golyguRoedd y Rhufeiniad wedi adeiladu ffordd ar draws Gogledd Cymru er mwyn cysylltu eu caerau yng Nghaer (Deva) a Chaernarfon (Segontiwm) - ond prin iawn bod y ffordd bresennol yn dilyn yr un llwybr. Yn wir, roedd pentiroedd y Penmaen-bach a Phen-y-clip ym Mhenmaenmawr wedi trechu'r teithwyr cynnar, gyda'r llwybr dros Fwlch y Ddeufaen yn rhoi llwybr mwy diogel at Eryri.
Mae hanes yr A55 yn dechrau gyda Thomas Telford. Pan gomisiynwyd ef i adeiladu'r A5 o Lundain i Gaergybi, gofynnwyd hefyd iddo wella'r ffordd o Gonwy ar draws yr arfordir at ei ffordd newydd, gan gynnwys pontio'r Afon Conwy. Adeiladodd Telford Pont Grog Conwy, a agorwyd yn 1826, fel y bont gyntaf ar draws yr afon yn y fan yma, llawer is na phontydd blaenorol, ac roedd hefyd wedi adeiladu ei ffordd dros lethrau'r ddau bentir peryglus. Roedd hwn felly wedi agor i fyny llwybr yr A55 presennol i deithio o Gaer i Fangor trwy Conwy.
Yn y 1930au, gwellwyd ffordd Telford pan adeiladwyd yn sylweddol i leddfu'r siwrnai dros bentiroedd y Penmaen-bach (un twnnel) a Phen-y-clip (dau dwnnel a phont dros rhan o'r môr), ym Mhenmaenmawr. Yn 1959, agorwyd pont newydd ar draws Afon Conwy wrth ymyl y bont grog.
Y Ffordd Fodern
golyguRhwng y 1960au a'r 1980au, mewn cyfres o ffyrdd osgoi, gwelliannau bychan a pheirianeg sifil mwy sylweddol, gwellwyd y cyfan o'r ffordd i fod yn ffordd ddeuol, Gwibffordd Gogledd Cymru. Fel rhan o'r gwaith hwn, adeiladwyd twnnel dan y môr fel ffordd amgen i groesi Afon Conwy ac osgoi tagfeydd traffig yn nhref Conwy, ac adeiladwyd twnnelau mwy sylweddol drwy'r ddau pentir.
Yn 2001, fel rhan o gynllun Cynllun Cyllid Preifat, ymestynwyd yr ffordd i gynnwys Pont Britannia (a rifwyd yr A5 cyn hynny) ac ar draws Ynys Môn, fel ffordd ddeuol ar draws yr ynys i osgoi pentrefi yr A5.
Mae'r A55 gyfan bellach wedi ei ddynodi yn rhan o'r Ffordd Ewropeaidd E22 (Caergybi - Leeds - Amsterdam - Hamburg - Malmö - Riga - Moscow - Perm - Ekaterinburg - Ishim).