Afon fawr yn Siberia, Rwsia, prif lednant Afon Ob, yw Afon Irtysh (Rwseg: Иртыш ; Casaceg: Ertis / Эртiс ; Tatareg: Иртеш / İrteş ; Tsieineeg: Erqisi / 额尔齐斯河). Ystyr ei enw yw "Afon Wen". Prif lednant yr Irtysh yw Afon Tobol. Mae basn afonol Ob-Irtysh yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn Asia, sy'n cynnwys Gwastadedd Gorllewin Siberia a Mynyddoedd Altai. Ei hyd yw 4,248 km (2,640 milltir).

Afon Irtysh
Mathafon drawsffiniol, afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOcrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina, Casachstan, Rwsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.414528°N 90.215544°E, 61.0806°N 68.8306°E Edit this on Wikidata
TarddiadMongolian Altai Edit this on Wikidata
AberAfon Ob Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Ishim, Vagay, Afon Tobol, Afon Konda, Afon Osha, Afon Ulba, Afon Uba, Afon Bukhtarma, Afon Tara, Afon Uy, Afon Om, Turtas, Demyanka, Afon Shish, Tuy, Afon Narym, Qaljır, Afon Kurchum, Burqin He, Afon Kaba, Bashkurka, Koksha, Imsysa, Inzhura, Takmys, Sogom, Q756422, Polovinka, Karakunduska, Syrtsa, Churbash, Bartak, Kaysy, Bolshoy Ingair, Kunduska, Sargis, Tentis, Bolshaya Supra, Bicha, Kilik, Q756937, Q757092, Katanguyka, Byzovka, Aremzyanka, Ananyevka, Pelina, Q757283, Stepanovka, Yarka, Ibeyka, Zamarayka, Sargatka, Bugumbas, Bolshaya Taychinka, Afon Chagan (tributary of Irtysh), Noska, Q4055098, Avlukha, Angaiska, Arkarka, Artynka, Q4091821, Bolshoy Kilik, Imis, Q4211955, Kip, Q4222624, Kunduk, Q4299699, Nekhlyudikha, Nyukhalovka, Q4331913, Q4365397, Podchugasnaya, Staraya Syrtsa, Tayma, Taltymka, Tozepka, Tugochayka, Tugutka, Ubaergan, Urash, Usolka, Q4506681, Chandysheva, Afon Shar, Q4518284, Zayka, Rogalikha, Kamyshlovka, Ava, Ava, Bolshaya, Tevriz, Tevriz, Usa, Startisa Edit this on Wikidata
Dalgylch1,643,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd4,248 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad3,000 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Zaysan Edit this on Wikidata
Map

O'i phrif darddle yn y Kara-Irtysh (Irtysh Du) ym mynyddoedd Altai Mongolia, yn nhalaith Xinjiang, Gweriniaeth Pobl Tsieina, llifa afon Irtysh i Rwsia ar gwrs gogledd-orllewinol trwy Llyn Zaysan, Casachstan ac yn ei blaen hyd nes mae'n cyrraedd ei chymer ag afon Ob ger Khanty-Mansiysk (Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi) yng ngorllewin Siberia.

Mae'r afon yn cael ei defnyddio gan longau a chychod o'r gwanwyn hyd hydref ond mae'n rhewi drosodd yn y gaeaf.

Y prif ddinasoedd ar lan afon Irtysh, o'i tharddle i'w chymer, yw:

Map sy'n dangos lleoliad Afon Irtysh
Afon Irtysh ger Cherlak

Gweler hefyd golygu