Khanty-Mansiysk
Tref gymharol ddiweddar, a sefydlwyd yn 1930 yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd, sy'n ganolfan weinyddol Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi yn Rwsia yw Khanty-Mansiysk (Rwseg: Ха́нты-Манси́йск). Mae'r dref wedi tyfu'n sylweddol o ganlyniad i ddatblygiad y diwydiant olew. Poblogaeth: 53,953 (2002), cynnydd o 34,462 ar ffigwr 1989. Mae'n gorwedd ar lan Afon Irtysh, 15 km o'i chymer ag Afon Ob.
Math | uned weinyddol o dir yn Rwsia, tref/dinas |
---|---|
Poblogaeth | 105,995 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+05:00 |
Gefeilldref/i | Yerevan |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 337.7604 km² |
Uwch y môr | 50 metr |
Gerllaw | Afon Irtysh |
Cyfesurynnau | 61°N 69°E |
Cod post | 628000 |
Mae nifer o'r trigolion yn bobl Ffino-Wgrig (Finno-Ugric).
Khanty-Mansiysk oedd lleoliad Olympiad Gwyddbwyll 2010.
Dolenni allanol
golygu- (Rwseg) (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas a'r Okrug Archifwyd 2020-10-12 yn y Peiriant Wayback