Afon Kunar
Mae Afon Kunar (Perseg/Pashto: Kunar Rud) yn afon tua 480 km o hyd, a leolir yn nwyrain Affganistan a gogledd-orllewin Pacistan. Mae afon Kunar yn cael ei bwydo gan ddŵr rhewlifau ac eira copaon yr Hindu Kush. Ymuna afon Lutkho ag afon Mastuj fymryn i'r gogledd o dref Chitral ym Mhacistan; ar ôl hynny mae'n cael ei adnabod fel Afon Chitral, cyn llifo yn ei blaen i'r de i ddyfryn Kunar, yn Nuristan, Affganistan, lle y'i gelwir yn Afon Kunar.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Khyber Pakhtunkhwa, Nuristan, Kunar, Nangarhar |
Gwlad | Affganistan Pacistan |
Uwch y môr | 534 metr |
Cyfesurynnau | 35.9022°N 71.8105°E, 34.4054°N 70.5314°E |
Aber | Afon Kabul |
Llednentydd | Afon Bashgal, Afon Pech |
Dalgylch | 26,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 480 cilometr |
Arllwysiad | 367 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Mae afon Kunar yn llifo i afon Kabul fymryn i'r dwyrain o ddinas Jalalabad yn nwyrain Affganistan. Gyda'i gilydd, mae'r dyfroedd yn llifo yn eu blaen fel Afon Kabul i gyfeiriad y dwyrain, heibio Bwlch Khyber i Bacistan, gan ymuno yn afon Indus ger dinas Attock.
Cyn i ddyfrynnoedd Kunar a Chitral gael eu rhannu rhwng Affganistan a Pacistan, roedd glannau afon Kunar yn llwybr masnach pwysig, gan ei bod y ffordd hawsaf i deithio i lawr o fynyddoedd y Pamir i wastadeddau isgyfandir India.