Afon Kabul
Mae Afon Kabul neu Afon Kabal (Perseg: دریای کابل) yn afon sy'n tarddu yng nghadwyn Sanglakh yn Affganistan, ac sy'n cael ei gwahanu oddi ar afon Helmand gan Fwlch Unai. Dyma afon fwyaf dwyrain Affganistan.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Maidan Wardak, Kabul, Laghman, Nangarhar, Khyber Pakhtunkhwa |
Gwlad | Affganistan Pacistan |
Cyfesurynnau | 33.918648°N 72.230423°E |
Aber | Afon Indus |
Llednentydd | Afon Swat, Afon Alingar, Surkhab, Afon Logar, Afon Panjshir, Afon Kunar |
Dalgylch | 75,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 460 cilometr |
Mae'n llifo 700 km cyn ymuno ag afon Indus ger Attock, ym Mhacistan. Mae'n llifo trwy ddinasoedd Kabul, Chaharbagh, Jalalabad, a (ar ôl llifo i Bacistan tua 30 km i'r gogledd o Fwlch Khyber) Nowshera. Mae'r afonydd sy'n llifo iddi yn cynnwys afon Logar, afon Panjshir, afon Kunar (sy'n cychwyn fel Afon Mastuj yn Chitral) ac afon Alingar.
Cyfeirir at Afon Kabul yn y Rig Veda, ysgrythur gynharaf Hindŵaeth, dan yr enw Kubhā (cyfeirir at sawl afon arall yn Affganistan yn y Rig Veda). Newidiodd yr enw Sanscrit hwnnw i Kābul gyda threiglad amser.