Afon Life

afon yn Iwerddon

Mae Afon Life neu Afon Liffe (Gwyddeleg: An Life;[1] Saesneg: River Liffey) yn afon yn Iwerddon, sy'n llifo trwy ganol dinas Dulyn. Ymhlith yr afonydd llai sy'n ei bwydo mae'r afonydd Dodder, Poddle a'r Camac. Darpara'r afon rhan helaeth o gyflenwad dŵr y ddinas a nifer o gyfleoedd am weithgareddau adloniadol.

Afon Life
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.15625°N 6.28806°W, 53.34358°N 6.19192°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Dodder, Afon Poddle, Afon Camac, Rye Edit this on Wikidata
Hyd125 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad13.8 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Pont Life

Tarddiad yr afon yw Cors Ben Life rhwng y mynyddoedd Kippure a Tonduff ym Mynyddoedd Wicklow. Mae’n llifo trwy Wicklow, Kildare a Dulyn cyn ymuno a’r Môr Iwerddon ynghanol Bae Dulyn. Hyd yr afon yw 132 cilomedr.[2]

Etymoleg

golygu

Mae Geographia Ptolemi (2il ganrif OC) yn disgrifio afon, efallai'r Liffe, a alwyd ganddo yn Οβοκα (Oboka). Yn y pendraw, arweiniodd hyn at (ail)enwi'r afon Avoca sydd yn llifo fewn i dref Arklow i'r de o Ddulyn.[3]

Galwyd y Liffe yn wreiddiol yn An Ruirthech, "rhedwr cyflym (neu cryf)".[4] (cymharer â'r gair Cymraeg "rhedeg". Mae'r gair Liphe (neu Life) yn y Wyddeleg yn cyfeirio at y tir gwastad yr oedd yr afon yn llifo drwyddi, gan ddod, maes o law, i gyfeirio at yr afon ei hun.[5] Gelwyd hi hefyd ar un adeg yn Anna Liffey,[6] o bosib yn Seisnigiad o'r Wyddeleg Abhainn na Life, ("afon Liffe").[7] Mae James Joyce yn ymgorffori'r afon fel "Anna Livia Plurabelle" yn ei nofel Finnegans Wake.

Raidió na Life

golygu

Enwir gorsaf radio gymunedeol Wyddeleg Dulyn, Raidió na Life ar ôl yr afon bwysig yma.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  2. ‘Rivers and their Catchment Basins’, Arolwg Ordnans Iwerddon, 1958
  3. "Ireland" (PDF). Romaneranames.uk. Roman Era Names. Cyrchwyd 1 Ionawr 2018.
  4. Mynegai archif yn y Peiriant Wayback
  5. Byrne, F. J. 1973. Irish Kings and High-Kings. Dublin. p.150
  6. As indicated by the caption of an engraving published in 1831
  7. "Seanad Éireann – Vol 159, May, 1999 – Motion on National Archives – David Norris (senator and Trinity lecturer) referencing Georgian Society records". Oireachtas Debates (Hansard). 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-23. Cyrchwyd 2019-10-25.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.