Raidió na Life

Gorsaf radio gymunedol Wyddeleg Dulyn

Mae Raidió na Life 106.4FM neu'n fwy cyffredin, Raidió na Life (ynganiad Gwyddeleg: [ˈɾˠadʲiːoː n̪ˠə ˈlʲɪfʲə]; sy'n golygu "Radio Life" - Life yw'r brif afon sy'n llifo drwy Ddulyn, gellid awgrymu bod y gair Gwyddeleg Life hefyd yn air mwys ar y Saesneg, "life", sef bywyd) yn orsaf radio Gwyddeleg a sefydlwyd ym 1993 ac sy'n darlledu yn Sir Dulyn, Iwerddon. Yn ogystal â chael ei ddarlledu ar FM, mae allbwn yr orsaf ar gael ledled y byd trwy'r rhyngrwyd.

Raidió na Life
Ardal DdarlleduDinas a maestrefi Dulyn
Arwyddaircuisle na cathrach ("curiad y ddinas")
Dyddiad CychwynMedi 1993
TonfeddFM: 106.4
PencadlysSráid Amiens, Dulyn
Perchennog Comharchumann Raidió Átha Cliath Teoranta
Webcasthttps://www.liveradio.ie/stations/raidio-na-life
Gwefanhttp://www.raidionalife.ie
FformatCymunedol: cerddoriaeth a siarad
IaithGwyddeleg a pheth Saesneg
Lleolir Raidió na Life yn Áras na Gaeilge ar Sráid Amiens yn ninas Dulyn

Hanes golygu

Daeth yr orsaf radio Wyddeleg annibynnol gyntaf, Raidió na Life 102, i'r awyr ym mis Medi 1993 gan gwmpasu Dulyn a rhai ardaloedd cyfagos. Mae'n darlledu o dan drwydded gan Awdurdod Darlledu Iwerddon.[1] Comharchumann Raidió Átha Cliath Teoranta, a sefydlwyd yn 1989, yw’r sefydliad sy’n berchen ar ac yn gweithredu Raidió na Life 106.4fm. Ym mis Hydref 2017, symudodd yr orsaf o swyddfeydd 7 Merrion Square i stiwdios pwrpasol newydd ym mhencadlys newydd Foras na Gaeilge, a leolir yn 63-66 Amiens Street ar ochr ogleddol y ddinas.[2][3]

Comharchumann Raidió Átha Cliath Teoranta golygu

Comharchumann Raidió Átha Cliath Teoranta (CRÁCT) yw’r fenter gydweithredol a sefydlwyd ar 4 Gorffennaf 1989 fel sefydliad dielw i oruchwylio’r cais i sefydlu a gweithredu Raidió na Life. Mae aelodaeth o CRÁCT yn agored i unrhyw un sy'n prynu cyfran yn yr orsaf. Ar hyn o bryd mae gan CRÁCT 380 o gyfranddalwyr ac mae o dan gyfarwyddyd y Bwrdd Rheoli.

Gwobr golygu

Yn Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022 a gynhaliwyd ym mis Mehefin yn ninas Kemper, Llydaw, enillodd yr orsaf wobr, Gorsaf Radio y Flwyddyn.[4]

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Liosta na Stáisiúin Teilifíse agus Raidió". Broadcasting Authority of Ireland. Cyrchwyd 2018-10-06.
  2. "GAILEARAÍ: Beo ar an aer! Stiúideo nua Raidió na Life i Sráid Amiens seolta- Tuairisc.ie". Cyrchwyd 10 May 2018.
  3. "Muiris Ó Fiannachta agus Raidió na Life in 2018- Near FM". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-21. Cyrchwyd 10 May 2018.Nodyn:Cbignore
  4. "The winner for #RadioStationOfTheYear is Raidió na Life @raidionalife #celticmedia #TorcAwards". Cyfrif Twitter Celtic Media Festival. 9 Mehefin 2022.