Afon Llifon
Afon yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Afon Llifon. Mae'n adnabyddus fel yr afon sy'n llifo drwy gerddi plas Glynllifon. Ei hyd yw tua 6 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Glynllifon |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.066577°N 4.313878°W |
Aber | Bae Caernarfon |
Hyd | 6 milltir |
Cwrs
golyguMae'n tarddu ym mryniau gogleddol Eryri ar lethrau Moel Tryfan ger Rhosgadfan (bro Kate Roberts a Dic Tryfan). Mae'n llifo oddi yno fel ffrwd fechan ar gwrs i gyfeiriad y gorllewin trwy'r caeau bychain niferus sydd rhwng Carmel a Rhostryfan. Mae'n gwneud tro bedol bron wrth fynd heibio i bentref Groeslon gan droi i lifo i gyfeiriad y de-orllewin am weddill ei thaith.[1]
I'r de o Llandwrog mae'n llifo trwy gerddi plas Glynllifon; creuwyd cyfres o readrau ornamental yn yr afon sy'n un o brif atyniadau'r gerddi hynny.
Ar ôl gadael parcdir coediog Glynllifon mae'r afon yn lledu am 2 filltir olaf ei chwrs. Mae'n llifo dan bont ar y briffordd A499 ac mae'n cyrraedd ei haber ar Fae Caernarfon tua milltir ar ôl hynny.[1]