Casllwchwr

tref ar aber yr Afon Llwchwr, yn sir Abertawe

Tref yng nghymuned Llwchwr, sir Abertawe, Cymru, yw Casllwchwr[1] neu Llwchwr[2] (Saesneg: Loughor).[3] Saif ar aber Afon Llwchwr. Mae ganddi boblogaeth o 9,080 (2001). Ers 1969 bu yma orsaf bad achub annibynnol, gyda chwch blaenllaw iawn (o ran technoleg) sef Ribcraft 5.85 m. Mae yma ddwy ysgol gynradd: Ysgol Gynradd Tre Uchaf ac Ysgol Gynradd Trellwchwr. Mae yma hefyd adran o Brifysgol Abertawe.

Casllwchwr
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlwchwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6626°N 4.0646°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS573980 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMike Hedges (Llafur)
AS/au y DUTonia Antoniazzi (Llafur)
Map

Roedd caer Rufeinig yma o'r enw Leucarium. Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael daeth Casllwchwr yn rhan o deyrnas Gŵyr. Mae'n bosibl mai Casllwchwr oedd canolfan wleidyddol a gweinyddol hen gantref Eginog yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Adeiladwyd castell Normanaidd ar safle'r hen gaer Rufeinig yn 1099 a chipiwyd hi gan y Cymry yn 1115, 1136 ac yn 1213.[2]

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chasllwchwr yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Ar un adeg roedd porthladd yma ond yn yr 20g y prif ddiwydiant oedd tun a dur.

Rhywle rhwng Casllwchwr ac Abertawe yn Ionawr 1136, ymladdwyd brwydr enfawr gyda thros 500 o'r Normaniaid yn cael eu lladd; tua'r un adeg ymosododd Gwenllian ar Gastell Cydweli yn aflwyddiannus.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007), tud. 573
  3. British Place Names; adalwyd 18 Hydref 2021